Effaith COVID-19 ar yr Economi

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 11:49 am ar 8 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 11:49, 8 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, rwyf wedi bod yn trafod gyda llawer iawn o fusnesau yng Nghwm Cynon sy'n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth ariannol a gawsant gan Lywodraeth Cymru o dan y gronfa cadernid economaidd. Er mwyn cael mynediad at y gronfa honno, nodaf fod angen iddynt ymrwymo i gontract economaidd Llywodraeth Cymru. A allwch roi asesiad inni o sut rydych yn meddwl y bydd ymrwymo i’r contract economaidd hwnnw o fudd i economi a chymdeithas rhanbarth Canol De Cymru yn y dyfodol?