Part of 3. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:00 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
Weinidog, rwy'n clywed gan rieni gofidus, sydd â phlant yn gofidio’n fawr, sydd eisiau ac angen gwybod y byddant yn mynd yn ôl i'r ysgol yn llawnamser ym mis Medi. Mae rhieni sy'n byw ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr hyd yn oed yn ystyried anfon eu plant i ysgolion yn Lloegr ym mis Medi. Beth sydd gennych i'w ddweud wrth y rhieni hynny? Diolch.