Part of 3. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:06 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
Dim ond mewn amgylchiadau penodol iawn y mae Llywodraeth Cymru yn cynghori y dylai staff sy'n gweithio yn ein hysgolion ddefnyddio masgiau wyneb. O ran gorchuddion wyneb—oherwydd mae cryn dipyn o wahaniaeth rhwng y ddau beth—nid ydym yn cynghori bod gorchuddion wyneb yn angenrheidiol mewn ysgolion.