Part of 3. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:01 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
Weinidog, diolch am eich atebion i'r cwestiynau hyn. Rydym yn deall yn glir yn awr y byddwch yn gwneud datganiad ar y mater hwn. Ond yn briodol felly, mae rhieni'n wirioneddol bryderus am hyn, nid oes amheuaeth am hynny, ac maent angen eglurder cyn gynted â phosibl. Mae angen trefnu gofal plant ac mae yna lawer o ffactorau eraill hefyd. Felly, yn dilyn y datganiad, yn ddiweddarach yr wythnos hon, a wnewch chi gadarnhau ac ymrwymo heddiw y bydd unrhyw gyhoeddiadau neu wybodaeth bellach i rieni yn cael eu rhoi iddynt ar fyrder? Oherwydd mae angen i etholwyr ar draws Alun a Glannau Dyfrdwy ac ar draws Cymru wybod hyn cyn gynted â phosibl er mwyn iddynt allu cynllunio.