Part of 3. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 12:58 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
Ers 29 Mehefin, mae ein dysgwyr wedi bod yn achub ar y cyfle i ailgydio, dal i fyny a pharatoi ar gyfer tymor yr hydref. Gan weithio gyda rhanddeiliaid, rydym yn datblygu cynlluniau cadarn er mwyn i blant ddychwelyd i'r ysgol ym mis Medi, ac fel rwyf wedi’i ddweud droeon y prynhawn yma, Lywydd, rwy'n bwriadu gwneud datganiad yn ddiweddarach yr wythnos hon i amlinellu fy nghynlluniau.