Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Wrth gwrs, rydym eisiau gweld gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn gallu parhau i weithio yn ystod yr haf, ac rwy'n cydnabod bod trefniadau gofal plant yn rhan o hynny. Byddai'n ddefnyddiol i mi pe bai'r Aelod yn darparu'r enghraifft y mae wedi'i roi heddiw yn fwy manwl i mi. Byddwn yn falch iawn o weld gohebu rhyngoch chi a’r Dirprwy Weinidog a minnau i ni allu trafod materion gyda'n swyddogion yma, a chael sgwrs adeiladol hefyd gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, oherwydd trwy gydol y pandemig, maent wedi bod yn bartner adeiladol iawn gyda ni, a chredaf y byddant yn cydnabod y problemau sy'n bodoli ym mhob cymuned, oherwydd, wrth gwrs, maent yr un mor awyddus â ninnau i weld y GIG yn parhau i wneud ei waith, ynghyd â phartneriaid mewn gofal cymdeithasol.