Cynllun Taliadau Arbennig y Gweithlu Gofal Cymdeithasol

Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 8 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 2:40, 8 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae’n syfrdanol fod y Torïaid yn ceisio troi ffordd wirioneddol ddilys a chadarnhaol o wobrwyo'r rheini sy'n gweithio yn y sector gofal yn rhywbeth negyddol, yn yr un modd ag y mae Prif Weinidog y DU wedi beio gweithwyr gofal am ledaenu’r coronafeirws. A ydych yn cytuno â mi ei bod yn bryd i'r Torïaid ddangos agwedd fwy cadarnhaol tuag at weithwyr gofal sydd wedi rhoi cymaint i'w cymunedau, ac oni fyddent yn ddoeth i fabwysiadu geiriau Winston Churchill ym 1940, pan ddywedodd,

Ni fu erioed dyled mor fawr gan gynifer i gyn lleied.