Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
Wel, fel y gŵyr yr Aelod, cynhaliodd y bwrdd iechyd yng Nghwm Taf Morgannwg ymgynghoriad ynglŷn ag opsiynau, a bu modd iddynt recriwtio mwy o staff i ddarparu'r gwasanaeth hwnnw'n ddiogel. Bydd yr Aelod hefyd yn gwybod, dros gyfnod hir o amser, am yr heriau a wynebwyd wrth ddarparu gofal iechyd ledled Cymru a'r cynlluniau ar gyfer darparu gofal iechyd yn y dyfodol, a bydd hefyd yn cofio’r cwestiwn gan ei gyd-Aelod, Darren Millar, rai wythnosau yn ôl, a alwodd ar Lywodraeth Cymru i beidio ag ymyrryd mewn newidiadau sydd eisoes ar y gweill i’r gwasanaeth. Rwy'n disgwyl i'r bwrdd iechyd barhau i ddarparu gofal diogel ac effeithiol a pharhau i sicrhau bod y gwaith o drawsnewid iechyd a gofal yng ngorllewin Cymru, fel yr amlinellwyd yn eu cynllun, 'Canolbarth a Gorllewin Iachach', yn parhau i fod o fudd i bob dinesydd ym mhob rhan o ganolbarth a gorllewin Cymru.