Ineos Automotive

Part of 5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 8 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:56, 8 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae hyn yn siom enfawr, wrth gwrs, i bobl Pen-y-bont ar Ogwr—y dref a'r ardal gyfagos. Weinidog, a ydych yn cytuno â mi, pan fo busnesau'n dadlau'r achos dros Brexit, fod cyfrifoldeb ychwanegol arnynt i fuddsoddi yn y DU a pheidio â buddsoddi yn y farchnad sengl am fod hynny'n fwy cyfleus o bosibl? A ydych chi hefyd yn cytuno y dylai'r bobl sy'n gefnogwyr Brexit angerddol fod yn ddig am yr hyn sydd wedi digwydd yma, gan fod hyn yn tanseilio eu cred angerddol y byddai'r DU yn well y tu allan i'r UE? Ac a ydych yn cytuno hefyd y byddai croeso i'r cefnogwyr Brexit hynny ymuno â mi wrth i mi fynegi fy nicter mawr, mewn gwirionedd, pan fydd cwmni'n penderfynu adeiladu car Prydeinig, yn penderfynu ei fod am adeiladu yn y DU, yna’n penderfynu newid ei feddwl ac adeiladu yn yr UE? Nid yw honno, Weinidog, yn ffordd o fynegi hyder yn Brexit, ydy hi?