Part of 5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
Weinidog, mae hon yn ergyd drom arall i fy rhanbarth ac mae'n hynod o siomedig. Ond o ran sefyllfa Ineos, roedd gan y Grenadier oes silff fer iawn ac wrth inni fynd ati i gael gwared yn raddol ar injans tanwydd ffosil, a hynny mewn hinsawdd economaidd ansicr, roedd eu dyfodol yn ansicr. Ond serch hynny, mae'n destun gofid i fy etholwyr a fy rhanbarth. Brif Weinidog, mae'n amlwg fod y sector modurol traddodiadol ar ei ffordd allan. A wnaiff eich Llywodraeth ganolbwyntio ei hymdrechion yn awr ar ddenu cwmnïau fel Tesla? Ac a wnewch chi ymrwymo i fuddsoddi mewn hyfforddiant ac ymchwil a datblygu yn y sector cerbydau trydan, yn hytrach na'r sector petrol traddodiadol?