Part of the debate – Senedd Cymru am 5:55 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Roeddwn i'n mynd i ddechrau drwy ddweud nad dadl ynglŷn â rhestr siopa o ofynion buddsoddi oedd hwn. Ond, wrth gwrs, mae'n naturiol bod pobl yn teimlo'n gryf am nifer fawr o wahanol feysydd. Ond, nid rhyw fath o lythyr estynedig i Siôn Corn yw'r ddadl yma, wrth gwrs, fel roedd Alun Davies efallai yn awgrymu reit ar y dechrau.
Mae hwn yn gyfle i ni ystyried, wrth gwrs, y newid diwylliannol yna o fod mewn sefyllfa lle rŷn ni wedi bod yn rhannu arian ac yn penderfynu ar sut rŷn ni'n gwario arian, i sut rŷn ni'n mynd i greu cyllid hefyd ein hunain drwy drethi. Mae'r newid yna yn mynd i olygu newid meddylfryd, wrth gwrs, fel sydd yn digwydd yn y broses esblygol yma rŷn ni'n mynd drwyddi fel Senedd, ond hefyd mae angen i hynny gael ei adlewyrchu yn gyfansoddiadol hefyd yn y ffordd efallai rŷn ni'n cyflwyno'r broses gyllidebu yn ehangach. Yn amlwg, mae'r pwyllgor wedi bod yn edrych ar broses ddeddfwriaethol o gwmpas y gyllideb, ac mae hynny yn destun adroddiad fydd yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir, ac yn amlwg yn drafodaeth ac yn ddadl y gallwn ni ei chael fan hyn yn yr hydref.
Nawr, mae cynaliadwyedd—mae yna dair C wedi dod drwyddo'n glir yn y ddadl yna. Tair C yn y Gymraeg, beth bynnag, efallai bod e ddim yn gweithio pan rŷch chi'n cyfieithu. Ond, yn sicr, mae cynaliadwyedd wedi dod drwyddo ym mron iawn bob un o'r cyfraniadau; mae cyfiawnder cymdeithasol hefyd wedi bod yn flaenllaw; a chydraddoldeb. A dwi'n meddwl bod y neges yna yn rhyw fath o linyn arian sydd yn gorfod rhedeg drwy ystyriaethau'r Llywodraeth yma pan mae'n dod i baratoi cyllideb, yn enwedig wrth gwrs yng ngoleuni Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol a'r newid yna yn y dehongliad, yn y disgwrs o gwmpas beth yw gwerth am arian mewn gwirionedd, pan rŷn ni'n edrych ar y modd y mae'r Llywodraeth yma yn gwario ei chyllideb.
Nawr, mae Mike Hedges yn berffaith iawn i ddweud mae COVID wedi newid popeth. Rŷn ni'n gwybod hynny. A fel dywedodd e, dyw cyllideb llynedd yn sicr ddim yn mynd i weithio eleni, a dwi'n cydnabod bod buddsoddi mewn addysg, wrth gwrs, yn un o'r cyfryngau ac un o'r arfau mwyaf pwerus sydd gyda ni o safbwynt mynd i'r afael â'r adfywiad economaidd y byddwn ni angen ei sbarduno yn sgil yr hyn sydd wedi digwydd.
Ac mae'n iawn i ddweud bod y pandemig yma wedi dangos i ni beth sydd yn bosib pan fydd yr ewyllys gwleidyddol yna i gyflawni pethau, yng nghyd-destun digartrefedd yn sicr. Pwy feddylia, petai gwleidyddion wedi penderfynu bod angen mynd i'r afael â digartrefedd yn y modd y mae hynny wedi digwydd yn y misoedd diwethaf, mi fyddem ni wedi wrth gwrs cyrraedd y pwynt lle rŷn ni arni ar hyn o bryd lawer yn gynt.
Nawr, mi fentrodd e gael ei belen grisial mas a darogan y byddai iechyd yn gweld y cynnydd mwyaf yn ei chyllideb a'r lefel isaf o graffu efallai. Wel, cawn ni weld, cawn ni weld, oherwydd dyna efallai sydd wedi digwydd yn y gorffennol.
Ac roedd Rhun yn iawn i'n hatgoffa ni o'r rôl mae llywodraeth leol wedi ei chwarae, yn sicr, a'r angen am broses gyllidol llesol fel rhywbeth sydd angen bod yn ganolog yn ein hystyriaethau ni. Ac mae hynny wrth gwrs yn dilyn wedyn i fod yn ystyried rhai o'r meysydd roedd Lynne Neagle yn cyfeirio atyn nhw o safbwynt iechyd meddwl a'r hyn sydd wedi digwydd i'r gronfa trawsnewid iechyd meddwl. Yn sicr, mae'r pandemig yma yn dwysáu yr angen am gefnogaeth i faes iechyd meddwl, heb sôn am y dirwasgiad economaidd fydd yn dod yn ei sgil e, a hynny wrth gwrs yn gwneud sefyllfa anodd yn waeth.
Mae lefel yr heriau y mae'r pandemig yma wedi ei amlygu, mae dirwasgiad economaidd hefyd yn mynd i ddod yn ei sgil ef, ac wrth gwrs dŷn ni wedi clywed lawer gwaith heddiw ynglŷn â'r heriau fydd yn dod yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd ar yr un pryd—mae'r rhain i gyd gyda'i gilydd yn golygu bod angen ymateb uchelgeisiol eithriadol gan Lywodraeth Cymru pan ddaw i osod ei chyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae'n rhaid i bob ceiniog weithio mor galed ag sy'n bosib.
A dwi'n rhannu rhwystredigaeth Rhianon Passmore pan oedd hi'n cyfeirio at arafwch manylion y shared prosperity fund, sydd wrth gwrs yn thema i ni fel pwyllgor, ac mae eraill fan hyn wedi ei chodi dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf yn hynny o beth. Achos rŷn ni'n gwybod, pa fwyaf o sicrwydd sydd yna ynglŷn â pha gyllideb, faint o gyllideb ac at ba bwrpas sydd yn dod, po fwyaf o rybudd, po fwyaf o wybodaeth gynnar rŷn ni'n ei chael, yna mae'n sefyll i reswm po fwyaf effeithiol y bydd effaith a dylanwad y modd y mae'r cyllid yna yn cael ei ddefnyddio.
Roedd y Gweinidog yn iawn i ddweud ein bod ni'n byw mewn amgylchiadau eithriadol, ond mae yn eithaf eithriadol yn fy marn i bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn honni bod £500 miliwn yn ychwanegol yn dod i Gymru a bod Gweinidog yng Nghymru yn dweud mai dim ond £12.5 miliwn sydd yna mewn gwirionedd o refeniw canlyniadol. Mi gawsom ni'r Ysgrifennydd Gwladol o flaen y Pwyllgor Cyllid yn gynharach yr wythnos yma ac mi godwyd y pwynt: 'Wel, beth mae hynny'n dweud wrthym ni os oes dau ddehongliad mor wahanol i'w gilydd yn cael eu cyflwyno? Beth mae hynny'n ei ddweud wrthym ni am y gyfundrefn sydd gyda ni ar hyn o bryd?'
Ac fel atgoffodd Mike Hedges ni yn y pwyllgor, yr her yw, 'Show us your workings', ac nid dim ond i'r Ysgrifennydd Gwladol ond i'r ddau Weinidog. Hynny yw, mae'n rhaid inni fod yn dod o fanna i fod mewn sefyllfa lle mae yna dipyn mwy o dryloywder i bobl Cymru ynglŷn â beth yn union yw effeithiau canlyniadol buddsoddiadau sydd yn dod o Lundain i Gaerdydd, ac mae hynny, dwi'n meddwl, yn rhywbeth sydd yn rhaid i bawb weithio yn galetach arno fe.
Ond, beth bynnag yw lefel y gyllideb, mae yna benderfyniadau anodd o flaen y Llywodraeth, wrth gwrs, yn y flwyddyn sydd i ddod, a gobeithio y bydd y ddadl yma wedi helpu'r Gweinidog a'r Llywodraeth i bwyso a mesur y blaenoriaethau hynny tra'u bod nhw, wrth gwrs, yn paratoi'r gyllideb ddrafft.