Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Rwyf i'n croesawu yn fawr y cyfle heddiw i edrych tua'r dyfodol wrth i ni ystyried y ffordd orau o sefydlogi ein heconomi a'n gwasanaethau cyhoeddus ac ailadeiladu ein cymdeithas ar sail newydd, ac rwyf i'n falch iawn fy mod i wedi cael y cyfle cynnar hwn i glywed syniadau yr ydych yn gwybod y byddaf yn eu hystyried o ddifrif, ac rwy'n gwybod ein bod ni hefyd yn rhannu llawer o'r un nodau wrth sicrhau adferiad Cymru o'r pandemig hwn, ac mae'r arolwg digidol y cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid yn gyfraniad pwysig iawn at y ddadl honno.
Cyn i mi amlinellu'r ystyriaethau sy'n llywio ein cynlluniau, dylem ni gydnabod yr amgylchiadau eithriadol o anodd yr ydym ni'n eu hwynebu a maint yr her ariannol wrth i ni edrych i'r dyfodol. Rydym ni yn y dirwasgiad dyfnaf mewn cof, ac nid yw'r farchnad lafur wedi gweld yr effeithiau gwaethaf eto pan fydd cynllun ffyrlo Llywodraeth y DU yn dod i ben. Mae llawer o dystiolaeth erbyn hyn fod y pandemig yn cael effaith anghymesur. Gallai craith diweithdra ar ei ben ei hun effeithio waethaf ar bobl ifanc, y rhai ar y cyflogau isaf, pobl anabl a'r bobl o gefndiroedd du a lleiafrifoedd ethnig.
Rydym ni'n wynebu ymadawiad y DU â'r UE heb gytundeb masnach rydd cynhwysfawr, a fyddai'n hynod niweidiol o dan amgylchiadau arferol, a bydd unrhyw beth llai na chytundeb yn gwaethygu difrod y pandemig ac yn gwanhau cyllid cyhoeddus. Mae'n rhaid i ni hefyd barhau i ymateb i argyfwng yr hinsawdd a'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Mae'r rhagolygon ar gyfer cyllid cyhoeddus yn adlewyrchu'r cyd-destun hwn, ac fel y dywedodd Rhianon Passmore, mae adroddiad newydd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ar gynaliadwyedd ariannol, a gyhoeddwyd ddoe ddiwethaf, yn ein hatgoffa'n ddifrifol iawn o'r heriau economaidd ac ariannol sydd o'n blaenau. Dangosodd yr adroddiad fod y DU ar y trywydd cywir i gofnodi'r gostyngiad mwyaf mewn cynnyrch domestig gros blynyddol a'r benthyciadau net uchaf yn y sector cyhoeddus mewn cyfnod o heddwch ers o leiaf 300 mlynedd. Disgrifiodd Rhianon Passmore y sefyllfa fel un 'arswydus', ac ni fyddwn i'n anghytuno â hi ar hynny.
Er bod datganiad y Canghellor yr wythnos diwethaf yn cynnwys rhai cyhoeddiadau i'w croesawu, ni wnaeth roi'r hwb sylweddol i wasanaethau cyhoeddus yr oeddem ni'n gobeithio amdano, na'r arfau ariannol y mae eu dirfawr angen arnom ni. Bydd gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a llywodraeth leol cadarn yn gwbl hanfodol i adferiad parhaus ac mae hon yn thema sy'n cael ei hadlewyrchu yn ymgysylltiad digidol y Pwyllgor Cyllid a'n harolwg cenedlaethol ein hunain. Ac, wrth gwrs, nododd Lynne Neagle yn hynod glir yr effaith y mae'r argyfwng wedi ei chael ar iechyd meddwl, a bydd angen i'r gwasanaethau iechyd meddwl hynny fod yno i bobl wrth i ni ddod allan o'r argyfwng.
O ran cyllid eleni, mae'n rhaid yn wir i mi egluro'r sefyllfa, ac nid yw'r honiad bod Cymru wedi cael £500 miliwn ychwanegol o'r mesurau a gyhoeddwyd gan y Canghellor yr wythnos diwethaf yn ddim byd ond camarweiniol. Y gwir amdani yw na fyddwn ni ond yn derbyn £12.5 miliwn o symiau refeniw newydd canlyniadol o ganlyniad uniongyrchol i'r mesurau a gyhoeddwyd yn y diweddariad economaidd, a dim cyllid cyfalaf ychwanegol. Hyd yn hyn rydym ni wedi derbyn tua £2.8 biliwn o gyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU, ac mae rhan helaeth o hwnnw eisoes wedi ei ymrwymo yn rhan o'n hymateb cychwynnol i'r pandemig. Yn syml, nid oes gennym ni ddigon o arian i wneud yr holl bethau y byddem ni'n hoffi eu gwneud na hyd yn oed yr holl bethau yr oeddem ni wedi bwriadu eu gwneud. Bydd maint yr her ariannol sydd o'n blaenau yn fater allweddol i'w drafod yng nghyfarfod Gweinidogion cyllid y pedair gwlad yn ystod yr wythnos nesaf, a byddaf i hefyd yn pwyso am eglurder ynghylch cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer yr adolygiad cynhwysfawr o wariant a addawyd ers tro.
Gan ragweld na fyddwn yn gwybod ein setliad ar gyfer 2021-22 tan ddiwedd yr hydref, rydym ni eisoes wedi nodi y gallai fod yn bosibl na fyddwn yn gallu cyhoeddi ein cyllideb ein hunain tan ddiwedd y tymor nesaf. Byddaf i'n ysgrifennu at gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar ôl y cyfarfod rhwng y pedair gwlad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y symiau canlyniadol yr ydym ni wedi eu cael ers cyflwyno'r gyllideb atodol.
Gan droi at ein paratoadau cynnar ar gyfer y gyllideb, rydym ni wedi ymrwymo i ddatblygu Cymru ffyniannus o'r pandemig hwn. Mae'r Cwnsler Cyffredinol yn dwyn ynghyd ein strategaeth ar gyfer ailadeiladu a bydd ein paratoadau ni yn cyd-fynd â'r gwaith hwn, a byddwch chi wedi gweld bod y datganiad ar y cyd a gyhoeddwyd ddoe gen i a'r Cwnsler Cyffredinol yn nodi'r egwyddorion a fydd yn ein harwain.
Byddwn yn adeiladu ar y sylfaen sydd wedi ei sefydlu pan fyddwn yn gosod ein cynlluniau ar gyfer 2021 ar gyfer Cymru fwy cyfartal, ffyniannus a gwyrddach. Rydym ni'n awyddus i sicrhau adferiad gwyrdd a fydd yn cynnal Cymru yn y dyfodol, gan adeiladu ar y pecyn cyfalaf o £140 miliwn ar gyfer datgarboneiddio a diogelu ein hamgylchedd gwych. Ac rwy'n gwybod bod hyn yn bryder y mae Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid wedi ei gydnabod y prynhawn yma, ac mae hefyd wedi ei gydnabod yn helaeth gan y bobl a gymerodd ran ym mhroses ymgysylltu y pwyllgor.
Rwyf i'n awyddus i ni ddod o hyd i ffyrdd newydd o sicrhau buddsoddiad cyfalaf mewn seilwaith i greu swyddi, gan barhau i ddatblygu ein cynlluniau buddsoddi uchelgeisiol ar gyfer Cymru gyfan, ac rwyf i wedi clywed yr hyn y mae Nick Ramsay wedi ei ddweud y prynhawn yma ynglŷn â rhai o'r materion hynny. Yn ôl yr hyn yr wyf i wedi bod yn gwrando arno yn ehangach, mae rhanddeiliaid yn dweud eu bod nhw'n dymuno ein gweld yn parhau i ganolbwyntio ar dai, ac yn ychwanegu at y £2 biliwn yr ydym ni eisoes wedi ei fuddsoddi yn ystod y Cynulliad hwn—yn ystod y tymor Senedd hwn—ar dai fforddiadwy o ansawdd da, sydd eisoes wedi ei fuddsoddi mewn tai cymdeithasol newydd, ochr yn ochr â chyflawni'r ôl-osodiadau effeithlonrwydd ynni angenrheidiol yn y stoc dai bresennol.
Roeddwn i'n hoffi rhybudd Mike Hedges rhag gwneud cyllideb ar gyfer y llynedd, ac rwy'n credu bod cymaint wedi newid dim ond yn ystod y misoedd diwethaf, onid yw? Mae'r newidiadau dim ond ers ein cyllideb bedwar mis yn ôl yn cadarnhau hynny yn fy marn i. Mae ein cronfa cadernid economaidd eisoes wedi cefnogi dros 9,000 o fusnesau, ac mae'n diogelu dros 77,000 o swyddi gweithwyr. Ac rwy'n credu mai'r hyn yr wyf i'n ei glywed y prynhawn yma yw bod cyd-Aelodau yn dymuno i ni gynyddu'r ymdrechion yn hyn o beth, gan ganolbwyntio ar helpu busnesau, ac yn enwedig y rhai hynny mewn sectorau carbon isel, y rhai hynny sy'n cefnogi ein cwmnïau cartref, er mwyn creu a diogelu swyddi, a'ch bod yn dymuno gweld pwyslais cryf iawn ar sgiliau a chyflogadwyedd, ac yn dymuno ein gweld yn gwneud popeth o fewn ein gallu i roi'r cyfle gorau posibl i bobl ifanc.
Yn rhan o'n cynlluniau ymgysylltu, byddwn ni hefyd yn parhau i sicrhau bod sgwrs genedlaethol, sydd eisoes wedi ei dechrau gan y Cwnsler Cyffredinol, a bydd hynny yn ein helpu i lywio'r dewisiadau anodd y bydd yn rhaid i ni yn ddiamau eu gwneud. Mae'n amlwg eisoes fod yn rhaid i ni fynd y tu hwnt i fusnes fel arfer a chanolbwyntio ar newid ac arloesi. Mae'r coronafeirws wedi newid ein byd, ac, ar ddiwedd cyfnod pontio'r UE, bydd hynny yn ychwanegu at yr her. Ond mae gennym ni gyfle sydd yno i ni lunio adferiad sy'n cyd-fynd â'n gwerthoedd. A soniodd Rhun ap Iorwerth am y ffordd y mae'r pandemig wedi newid y ffordd yr ydym yn gwerthfawrogi pethau, ac rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn aelod o'r rhwydwaith o genhedloedd cyllidebu llesiant, ac rydym ni hefyd yn ceisio dylanwadu ar waith Llywodraeth y DU i adolygu Llyfr Gwyrdd Trysorlys y DU, ac rydym ni'n awyddus i weld mwy o bwyslais ar sut yr ydym ni'n gwerthfawrogi—sut yr ydym ni'n rhoi gwerth ar ganlyniadau cymdeithasol a chanlyniadau amgylcheddol yn hynny o beth.
Felly, byddaf i'n ystyried y pwyntiau a wnaed heddiw wrth lunio ein cynlluniau, a byddaf i'n falch iawn o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein cynnydd yn yr hydref. Cyfeiriodd Alun Davies at y broses o wneud penderfyniadau, ac yn fuan iawn rwyf i'n edrych ymlaen at lansio ymgynghoriad ar Fil cyllid posibl ar ddeddfwriaeth dreth, y gellid ei ddwyn ymlaen yn y Senedd nesaf, ac rwy'n gwybod bod hynny yn rhywbeth y mae'r Pwyllgor Cyllid hefyd wedi mynegi diddordeb arbennig ynddo. Diolch.