Part of the debate – Senedd Cymru am 7:29 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Gaf i yn gyntaf droi at beth mae Plaid Cymru wedi dweud yn eu dadl heddiw? Mae yna gonfensiwn cyfansoddiadol yn barod, sydd wedi cael ei sefydlu, sydd yn dweud os oes yna blaid sydd yn sefyll ar faniffesto sydd o blaid cael refferendwm i gefnogi annibyniaeth, yna dylai fod yna refferendwm. Rŷn ni wedi gweld yna yn yr Alban. So, mewn ffordd, does dim eisiau'r ddadl hyn o'n blaenau ni heddiw, ta beth yw'ch barn ar annibyniaeth, ac rwy'n siarad fel rhywun, wrth gwrs, sydd ddim o blaid annibyniaeth, ond hefyd ddim o blaid y Deyrnas Unedig fel mae e nawr, a gwnaf i esbonio hwnna nes ymlaen.