Part of the debate – Senedd Cymru am 7:51 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Diolch, Llywydd. Wrth wraidd y ddadl gyntaf hanesyddol hon, y ddadl olaf yn y sesiwn Seneddol hon, mae'r gosodiad syml ond sylfaenol bod yn rhaid i'r penderfyniad ynghylch pa un a ddylai Cymru ddod yn genedl annibynnol fod yn ddewis i bobl Cymru a neb arall. Credwn y dylai hawl Cymru i bennu ei dyfodol cyfansoddiadol, gan gynnwys yr hawl i ddod yn wlad annibynnol, pe byddai pobl Cymru yn pleidleisio i wneud hynny, gael ei ymgorffori yn y gyfraith. Yn benodol, mae hyn yn mynnu bod gan y Senedd hon y pŵer i ddewis pryd a pha un a ddylid galw refferendwm ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru, gan wireddu yn ymarferol hawl pobl Cymru i ddewis y math o lywodraethu sydd fwyaf addas i'w hanghenion, a hefyd sut, a chyda phwy, y maen nhw eisiau rhannu eu sofraniaeth.
Democratiaeth yn ôl ei diffiniad yw llywodraeth gan y bobl. Ond wedyn mae'n rhaid i ni benderfynu pwy yw'r bobl, ac i ni mae'r ateb yn amlwg. Y bobl yw pobl Cymru, sy'n byw o fewn ei ffiniau ac sydd gyda'i gilydd yn ffurfio gwlad sy'n mwynhau'r hawl i hunan-benderfyniad sy'n un o egwyddorion sylfaenol cyfraith ryngwladol, un o egwyddorion sylfaenol Siarter y Cenhedloedd Unedig ac, fel y dywedodd Mick Antoniw, yn un o egwyddorion y mudiad Sosialaidd Rhyngwladol. Felly, gobeithiwn y bydd llawer o Aelodau Llafur yn ymuno â ni i gefnogi ein cynnig heno.
Yr hawl sofran hwn i bobl Cymru benderfynu ar eu dyfodol eu hunain yw conglfaen y Senedd hon. Ond ar hyn o bryd, nid yw ein cyfreithlondeb cronnol, sef y pwerau sydd gennym ni, ar gael i ni drwy hawl parhaol mewn ystyr ffurfiol, ond ar fenthyg i ni gan Senedd arall sy'n disgrifio ei hun, heb eironi, fel 'goruchaf', hyd yn oed wrth iddi adfeilio'n araf i mewn i afon Tafwys. Mae hynny'n hunandybiaeth cyfansoddiadol y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi dweud ei bod yn anghytuno'n gryf iawn â hi. Yn ei Phapur Gwyn 'Diwygio ein Hundeb: Llywodraethu ar y cyd yn y DU', dywedodd Llywodraeth Cymru hyn:
'Nid yw sofraniaeth Senedd y DU, yn ôl y ddealltwriaeth draddodiadol ohoni, yn cynnig sylfaen gadarn bellach ar gyfer y cyfansoddiad hwn sy'n esblygu...mae'n rhaid iddi fod yn agored i unrhyw ran ohoni ddewis yn ddemocrataidd i ymadael â'r Deyrnas Unedig.'
Felly, pan fyddwn ni'n cadarnhau yn y cynnig hwn hawl pobl Cymru i benderfynu ar ba un a ddylai Cymru ddod yn wlad annibynnol, dylem ddisgwyl yn rhesymol i'r Llywodraeth hon gefnogi cais Cymru i gael yr hawl. Ond yr hyn sydd gennym ni gan y Llywodraeth yw distrywio seneddol heno, gwelliant 'dileu popeth' sy'n dileu pob cyfeiriad at yr hawl i benderfynu ar ein dyfodol ein hunain. Nid yw'n dweud dim am natur wirfoddol yr undeb hwn, ac mae'n cyflwyno pâr chwedlonol y llew a'r ungorn, sydd mor hoff gan undebwyr blaengar—Teyrnas Unedig ddiwygiedig.
Mae safbwynt Llywodraeth Cymru yn cyfateb yn gyfansoddiadol i gri Awstin Sant, 'Gwna ni'n sofran, Arglwydd, ond ddim eto.' Na, gadewch i ni roi'r syniad o Deyrnas Unedig ddiwygiedig, a fyddai'n caniatáu gweithredu cydgysylltiedig gan y Llywodraeth, un hwb olaf, er ein bod wedi gweld, dros y misoedd diwethaf gamgymeriadau trychinebus Llywodraeth analluog, anfedrus, di-glem San Steffan—geiriau'r Prif Weinidog, nid fy ngeiriau i—sydd wedi trin Llywodraeth Cymru a'r genedl Gymreig mewn modd sydd wedi pendilio rhwng esgeulustod diniwed a dirmyg llwyr, o dan arweiniad elît gwleidyddol a gweinyddol sy'n dal i fod yn credu mai San Steffan sy'n gwybod orau, hyd yn oed pa fo cyfraddau marwolaeth Prydain ymhlith y gwaethaf yn y byd.
Pan ddaw'n fater o ddiwygio mewn unrhyw faes—soniodd y Prif Weinidog yn gynharach heddiw am yr ansicrwydd yn y maes gofal cymdeithasol ers Comisiwn Dilnot—mae San Steffan yn gwneud i Godot ymddangos fel petai'n cyrraedd ar amser. Ni fyddwn ni byth yn cyflawni newid drwy aros i eraill newid pethau drosom ni. Gallwn naill ai fynnu ein hawl i benderfynu ar ein dyfodol ein hunain, neu byddwn yn canfod bod y dyfodol yn cael ei bennu ar ein cyfer—boed hynny yn rhoi tarmac dros wastadeddau Gwent, neu ymgais ddiweddaraf y Canghellor i grafangu grym ar gyfer cymorth gwladwriaethol.
Beth bynnag a benderfynwn ni heno, mae'n bwysig i'n democratiaeth Gymreig fod y ddadl yn y fan yma yn adlewyrchu'r ddadl sydd eisoes yn digwydd ar lawr gwlad. A beth bynnag yw ein barn ar fater annibyniaeth, dylai hawl pobl Cymru i ofyn y cwestiwn fod yn ddiymwad. I ni ym Mhlaid Cymru, yr ateb i'r ddau gwestiwn hynny yw 'ie'—ie i gael dweud ein dweud, ac ie i 'ie'. Mae pobl Cymru ar gerdded, ac maen nhw yn y man y dylen nhw fod ynddo—ar y blaen, wrth y llyw, yn arwain y ddadl ac yn gwrando ar ein dadl ni heno.
Pan ysgrifennir hanes ein hannibyniaeth, bydd y blynyddoedd diweddaraf hyn o argyfwng a helbulon, o Brexit i COVID, yn cael rhan flaenllaw, rwy'n credu, ac am y rheswm hwn, oherwydd, yn hytrach nag achosi i bobl lynnu at yr hen sicrwydd, mae'r adegau hyn o argyfwng wedi agor meddyliau pobl i bosibiliadau newydd. Mae'r slogan hwnnw, 'adeiladu'n ôl yn well', yn atseinio gyda phob un ohonom ni erbyn hyn mewn gwahanol ffyrdd. Rydym ni wedi colli cynifer, ond rydym ni wedi ennill dealltwriaeth o'r hyn yr ydym ni yn ei werthfawrogi mewn gwirionedd. Dyna'r edau euraidd, ymyl arian ar gwmwl tywyll yr adeg hon. Ni, pobl Cymru, yw adeiladwyr y Gymru well honno. Ni fydd neb arall yn ei hadeiladu ar ein rhan, ond, os ydym ni yn credu ynom ni ein hunain ac yn ein gilydd, nid oes unrhyw beth na allwn ni ei gyflawni.