Part of the debate – Senedd Cymru am 8:07 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Felly, dyma ni nawr yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar y Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2020. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Canlyniad y bleidlais, felly: 41 o blaid, 12 yn ymatal, un yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei gymeradwyo.