Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 10:08 am ar 15 Gorffennaf 2020.
Prif Weinidog, diolch am eich ateb. Hoffwn bwysleisio pwysigrwydd chwaraeon proffesiynol. Ers mis Mawrth, mae chwaraeon proffesiynol yng Nghymru naill ai heb fod yn cael eu chwarae neu wedi cael eu chwarae heb wylwyr. Mae clybiau chwaraeon proffesiynol fel y Gweilch a chlwb pêl-droed Dinas Abertawe yn gyflogwyr mawr yn Abertawe, yn ogystal â'u pwysigrwydd fel cenhadon i'r ardal a'r ddarpariaeth o adloniant. Mae angen dybryd am gymorth ariannol i chwaraeon proffesiynol hyd nes y caniateir i wylwyr ddychwelyd, oni bai ein bod ni'n wynebu'r posibilrwydd erchyll o beidio â chael unrhyw chwaraeon proffesiynol o dan lefel ryngwladol. Pa gymorth ariannol pellach y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei roi i chwaraeon proffesiynol yng Nghymru hyd nes y caiff y gwylwyr ddychwelyd?