Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 10:40 am ar 15 Gorffennaf 2020.
Prif Weinidog, yr hyn a fyddai'n drychinebus yn economaidd fyddai'r angen am naill ai cyfyngiadau symud o'r newydd neu gyfyngiadau symud lleol, ac un o'r mesurau allweddol yr ydych chi wedi eu rhoi ar waith yw profi ac olrhain. Mae eich ffigurau ar gyfer dychwelyd y canlyniadau o brofi ac olrhain yn gwaethygu. Mae'r ffigurau ar gyfer darpariaeth mewn 24 awr o dan gyfradd ymateb o 50 y cant, ac mewn 48 awr dim ond 66 y cant o brofion sy'n cael eu dychwelyd i'r bobl sydd wedi cyflwyno eu hunain ar gyfer prawf. Sut yr ydych chi'n mynd i wella'r ffigurau hyn i ddod yn agosach at y 90 y cant y mae'r rhan fwyaf o arbenigwyr yn credu sy'n cynnig strwythur profi effeithiol a fyddai'n ein hamddiffyn yn economaidd, a hefyd ein hiechyd?