Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 10:11 am ar 15 Gorffennaf 2020.
Wel, Llywydd, rydym ni wedi cael cyfres o drafodaethau gydag Undeb Rygbi Cymru, ac rwyf i wedi cymryd rhan uniongyrchol yn rhai o'r rheini fy hun. Rydym ni eisoes yn rhoi cymorth sylweddol i Undeb Rygbi Cymru ac mewn trafodaethau â nhw ynglŷn â chymorth ychwanegol y gallem ni ei ddarparu.
Yn sicr, nid yw'r syniad o 40,000 o bobl yn dod at ei gilydd mewn digwyddiad torfol yn gyson â'r dull o fynd i'r afael â'r coronafeirws a fu gennym ni yma yng Nghymru. Yn syml, nid yw'r risg y byddai hynny yn ei hachosi i iechyd y bobl hynny a fyddai'n bresennol, ac i'r bobl hynny y byddai'n rhaid eu cyflogi i ganiatáu i hynny ddigwydd, o fewn terfynau yr hyn y byddai dull synhwyrol o ymdrin â'r pandemig byd-eang hwn yn ei awgrymu.