Gorsafoedd Radio Lleol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 10:46 am ar 15 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 10:46, 15 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, darlledwyd y rhaglen Sunday Hotline, a gyflwynir gan Kev Johns ar Sain Abertawe, olaf erioed yr wythnos hon. Roedd y llinell boeth wedi gweithredu ers degawdau ac roedd yn cael ei gwerthfawrogi'n fawr gan drigolion lleol, gan gynnig cyfle unigryw i bobl godi materion lleol o bryder ac i holi gwleidyddion lleol. Yn anffodus, bydd yr orsaf yn gadael y tonnau awyr ym mis Medi, yn rhan o ymarfer ailfrandio. Nawr, mae mwy na digon o rwydweithiau DU gyfan neu ranbarthol, a phob un yn adrodd yr un newyddion, gyda'r un cyflwynwyr. Yr hyn sydd ar goll yw radio gwirioneddol leol sy'n adlewyrchu bywydau pobl leol. A ydych chi'n cytuno felly mai un ffordd o wneud iawn am y golled hon yw datganoli darlledu i'r Senedd hon ac i ddatblygu ein hôl-troed gorsafoedd radio masnachol lleol ein hunain yma yng Nghymru?