Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 10:49 am ar 15 Gorffennaf 2020.
Prif Weinidog, rydym ni wedi gweld budd mawr radio rhanbarthol, lleol a chymunedol, yn wir, yn ystod yr argyfwng hwn, wrth iddyn nhw ddod â chysur mawr i lawer o bobl gan y bu'n rhaid iddyn nhw dreulio cymaint o amser gartref, gyda newyddion ac eitemau lleol. Ac rwy'n meddwl tybed a allwch chi wneud mwy i ddefnyddio caffael, cymorth â grantiau hyfforddi, a negeseuon iechyd cyhoeddus hefyd, a rhoi cynifer â phosibl drwy'r llwybrau hyn. Gall Llywodraeth Cymru yn y ffordd y mae'n gweithredu yn economaidd helpu'r rhwydweithiau hanfodol hyn.