Part of the debate – Senedd Cymru am 11:12 am ar 15 Gorffennaf 2020.
Diolch am godi'r mater hwn, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog iechyd wedi bod yn gweithio ar fersiwn nesaf y strategaeth brofi, ac y bydd hysbysiad a chyhoeddiad am hynny cyn bo hir. Ac yn amlwg, bydd wedi clywed yr hyn yr ydych chi wedi'i ddweud am ofalwyr yn y gymuned a sut yr ydym ni'n sicrhau bod profion ar gael i'r holl bobl hynny sydd eu hangen ac a fyddai'n elwa arnynt.