Part of the debate – Senedd Cymru am 11:18 am ar 15 Gorffennaf 2020.
O ran pwynt cyntaf Andrew R.T. Davies, byddwn i'n ei gyfeirio at yr ateb yr wyf i newydd ei roi i Alun Davies, a gododd bryder tebyg. Ond, o ran y seremonïau priodas, gallaf eich sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn edrych yn ofalus ar sut y gallwn ni agor y lleoliadau eraill hynny nad ydyn nhw'n swyddfeydd cofrestru nac yn addoldai. Pan fyddwn yn gallu dweud mwy am hynny, byddwn yn sicr yn gwneud hynny.