Part of the debate – Senedd Cymru am 11:21 am ar 15 Gorffennaf 2020.
Iawn, diolch. Ac unwaith eto, rwy'n nodi'r sylwadau agoriadol a wnaethoch, ac yn amlwg byddaf i'n cael rhai trafodaethau pellach gyda chydweithwyr ynghylch y mater penodol hwn. Ond o ran eich cais am ddatganiad ar ddementia, rwy'n credu y bydd y Gweinidog iechyd wedi clywed y cais penodol hwnnw, ac rwy'n siŵr y bydd yn awyddus i rannu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud i gefnogi pobl â dementia yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn, ac o bosib yn fwy felly i bobl sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd. Felly, byddaf i'n cysylltu â'r Gweinidog iechyd ynghylch y mater penodol hwnnw.