Dysgu Seiliedig ar Waith

Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 11:36 am ar 15 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 11:36, 15 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Jack Sargeant am ei gwestiwn a datgan unwaith eto fy ymrwymiad i i'r rhaglen brentisiaethau? Rwy'n falch o ddweud bod gennym un o'r cyfraddau llwyddiant uchaf yn Ewrop o ran ein darpariaeth ni o brentisiaethau, hynny yw, prentisiaid sy'n mynd ymlaen i ennill gwaith sy'n gynaliadwy. Mae hynny'n dangos gwerth ein system ni. Nid ydym wedi glastwreiddio na dibrisio'r rhaglen brentisiaeth yng Nghymru. Nawr, yn amlwg, fe fydd yna lawer o bwysau ar gyllidebau wrth i gyfyngiadau gael eu llacio oherwydd camau gweithredu Llywodraeth Cymru wrth frwydro yn erbyn COVID-19, ond fe fyddwn ni'n canolbwyntio ein buddsoddiad ni ar brentisiaethau yn y meysydd hynny o'r economi a fydd yn cefnogi'r adferiad yn y ffordd orau bosib. Mae swyddogion yn ystyried mesurau pellach ar hyn o bryd i gynorthwyo'r adferiad a chefnogi prentisiaid.