Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 11:32 am ar 15 Gorffennaf 2020.
Er bod gan lawer o bobl ledled Cymru a San Steffan eu barn nhw am dwneli Bryn-glas, fy etholwyr i sy'n byw gyda'r llygredd a'r tagfeydd. Nid traffig lleol yw prif achos y rhain, ond pobl Casnewydd yw'r rhai sy'n dioddef fwyaf. A wnaiff y Gweinidog roi sicrwydd, pan fydd comisiwn trafnidiaeth y De-ddwyrain yn cynhyrchu ei adroddiad terfynol hir ddisgwyliedig yn ddiweddarach eleni, y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar y canfyddiadau i ddatrys y mater hirsefydlog hwn unwaith ac am byth?