Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 11:57 am ar 15 Gorffennaf 2020.
Wel, mae gennym ddiddordeb yn sicr mewn arloesi ac fe fyddem yn awyddus i edrych yn fanwl ar yr enghraifft hon, ac mae rhagor o arloesi technoleg isel yn nes at adref sydd wedi cael ei ddatblygu. Mae Edwards Coaches, er enghraifft, wedi bod yn arbrofi gyda tharianau wyneb plastig ar eu bysiau nhw i geisio cael mwy yn teithio'n ddiogel arnynt. Ac rydym yn edrych ar bob un o'r rhain. Fel bob amser, mae economeg y diwydiant bysiau yn heriol i'r mathau hyn o fuddsoddiadau. Ac rydym wedi bod yn ymdrechu gyda'r gweithredwyr i ddod o hyd i ffordd o roi hwb i'w gwasanaethau gyda'u cerbydau presennol, o gofio pa mor fregus yw eu model busnes nhw, a pha mor ddibynnol ydynt ar gymhorthdal cyhoeddus, a sut i gydbwyso'r buddsoddiad ychwanegol sydd ei angen i roi'r mesurau hyn ar waith â'u gallu nhw i fasnachu fel busnesau.