Metro Bae Abertawe a Chymoedd y Gorllewin

Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 11:59 am ar 15 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 11:59, 15 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, mae datblygu Metro ym Mae Abertawe a'r Cymoedd gorllewinol yn hanfodol er mwyn lleihau amseroedd teithio a thagfeydd yn Abertawe a'r cyffiniau, ac er mwyn sbarduno datblygu economaidd yn ein cymunedau ni yn y Cymoedd. Serch hynny, er y cytunwyd ar gyllid i gynnal astudiaeth ddichonoldeb yn 2017, nid ydym wedi cael fawr ddim o'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun hwn gan Lywodraeth Cymru. A wnewch chi amlinellu pryd yr ydych yn disgwyl i'r astudiaeth ddichonoldeb gael ei gwneud yn gyhoeddus, a phryd yr ydych yn disgwyl gwneud penderfyniad ar y cynllun? Ac a ydych chi'n cytuno ei bod yn bwysig y dylai dewisiadau rheilffyrdd ysgafn mewn ardaloedd fel Cwm Tawe a Chwm Aman fod yn rhan o'r gwaith dichonoldeb hwnnw?