Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 12:01 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Daeth y symbyliad ar gyfer Metro Bae Abertawe yn sgil galwadau niferus yn y Siambr hon am system drafnidiaeth sy'n sail i'r fargen ddinesig, ac rwy'n falch nawr bod Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i ddatblygu cynlluniau, yn arbennig ar gyfer y gwasanaeth cyflymach hwnnw i'r Gorllewin a'r De.
Rwyf wedi cyflwyno'r achos o'r blaen y byddai parcffordd yn siŵr o gefnogi'r nod diweddarach hwnnw yn ogystal â gwella'r cyfleoedd ar gyfer teithio llesol a'r math o reilffyrdd yr oedd Dai Lloyd yn sôn amdanynt. Rwy'n derbyn mai mater a gafodd ei ddatganoli yw hwn, ond mae cyllid gan Lywodraeth y DU ar gael ar gyfer parcffordd, felly oni fyddai'n ddoeth i Drafnidiaeth Cymru a'r partneriaid eraill gynnwys Llywodraeth y DU yn—[Anghlywadwy.]—am eu bod nhw'n bartneriaid yn y fargen ddinesig, wedi'r cyfan, yn hytrach nag, efallai, gyflwyno bil iddyn nhw ar y diwedd neu honni bod diffyg buddsoddiad?