Part of 4. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 12:43 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Rydym yn gwybod nad yw asesiadau cyfredol yn adlewyrchu'r holl ddarlun economaidd, gydag economegwyr yn rhagweld efallai na fydd yr effaith lawn yn cael ei theimlo tan fis Hydref a thu hwnt. Rydym yn gwneud popeth y gallwn ni fel Llywodraeth i liniaru'r effeithiau ac mae ein pecyn cymorth £1.7 biliwn yn golygu y gall busnesau yng Nghymru gael y cymorth mwyaf hael yn unrhyw le yn y DU.