Part of 4. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 1:01 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Dau fater gennyf i cyn inni dorri am ginio. Y cyntaf yw fy mod yn ymwybodol bod y Gweinidog Iechyd wedi gwneud datganiad ysgrifenedig ar ddyfodol y strategaeth brofi am y coronafeirws. O ystyried y sylwadau gan bob plaid yn gynharach yn ystod y datganiad busnes ynghylch priodoldeb gwneud datganiadau i'r Siambr hon heblaw ar ffurf ysgrifenedig, rwyf wedi penderfynu felly ymestyn y cwestiwn amserol o dan enw Janet Finch-Saunders, sydd yng nghyd-destun profion mewn cartrefi gofal, i ganiatáu i unrhyw Aelod sydd â chwestiwn ar y datganiad ysgrifenedig hwn allu gofyn y cwestiynau hynny i'r Llywodraeth hefyd. A byddwn yn rhoi gwybod i'r Llywodraeth mai dyna fydd yn digwydd.
A hefyd i dynnu sylw at y ffaith fy mod wedi cael gwybod gan Neil McEvoy bod llun wedi'i dynnu y tu mewn i'r Siambr yn ystod y Trafodion. Mae aelodau'n gwybod nad yw hynny'n iawn i'w wneud, ac nad yw i'w drydar, ac nad yw i'w ailadrodd gan unrhyw aelod. Diolch i Neil McEvoy am dynnu fy sylw at hynny.
Rydym ni nawr yn torri am ginio, a byddwn yn dechrau eto am 13:45.