Part of 4. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 12:58 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Diolch i David Melding am y cwestiwn atodol yna. Bydd wedi gweld cyhoeddi model gweithredu'r ffin ddydd Llun, sy'n ddogfen ddrafft yr ydym ni wedi gallu gwneud peth sylwadau yn ei chylch, ond rwy'n credu mai'r diben o hyn ymlaen yw cael llawer mwy o gysondeb rhwng y llywodraethau yn hyn o beth. Does gennym ni ddim amser i'w golli rhwng nawr a diwedd y flwyddyn, ac mae'r effaith yn rhai o'r meysydd hyn yn gallu bod yn sylweddol iawn. Ac mae yna gyfuniad cymhleth iawn o gymwyseddau datganoledig ac a gadwyd yn ôl ar waith yma. Felly, ar ôl gweld y cyhoeddiad ddydd Llun, rwy'n gobeithio y gwelwn ni dipyn o newid sylweddol o ran sut y gallwn ni weithio gyda'n gilydd i ddatrys rhai o'r heriau ymarferol iawn hyn.