Part of the debate – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Diolch, Prif Weinidog. Rhannaf y pryderon am ein hanallu i fwrw ymlaen â'r Bil bysiau, ond rwy'n dawel fy meddwl eich bod yn credu bod gennych chi ffyrdd eraill o ddiogelu'r sector hwn, oherwydd yn arbennig yng Nghaerdydd, lle'r ydym yn ffodus o gael Bws Caerdydd sydd mewn perchnogaeth gyhoeddus, maent yn gyson yn wynebu cystadleuaeth annheg gan weithredwyr masnachol preifat, fel y'u gelwir, sydd wedi llwyddo i ddewis y llwybrau mwyaf proffidiol gan anwybyddu'r llwybrau cymdeithasol pwysig. Yn yr un modd, nid yw Bws Caerdydd wedi gallu manteisio ar y gronfa argyfwng cadernid economaidd, er ei bod yn amlwg wedi gallu manteisio ar gefnogaeth cynllun cadw swyddi COVID. Ond, serch hynny, maent wedi colli dros £600,000 yn y tri mis diwethaf, gan sicrhau bod gweithwyr hanfodol yn dal i allu cyrraedd eu swyddi, a byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod ychydig mwy am sut yr ydym yn bwriadu diogelu'r gwasanaethau hanfodol hyn, wrth fwrw ymlaen, os na allwn ni ddeddfu.
Un peth y sonioch chi amdano yn eich datganiad oedd y rheoliad diwygio ar datws hadyd. Mae'n swnio'n ymylol, ond roeddwn yn dyfalu pa berthynas sydd ganddo â'r rheoliadau ôl-Brexit y mae Llywodraeth y DU yn eu paratoi, lle mae cwmnïau hadau masnachol yn pryderu'n fawr y gallent orfod talu £300 fesul math er mwyn gallu parhau i werthu eu hadau yng Nghymru neu, yn wir, ledled y DU. Yn amlwg, mae hwnnw'n fesur gwrth-gystadleuol iawn a allai fod o fudd mawr i'r cwmnïau cyd-dyriad hynod o fawr ac yn ergyd farwol i lawer o gwmnïau bach sy'n gwerthu hadau llysiau. Felly, tybed a oes unrhyw gysylltiad rhwng y ddau hynny.