Part of the debate – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Prif Weinidog, rwy'n ddiolchgar i chi am y datganiad y prynhawn yma ac, fel chi, rwy'n rhannu'r siom na fyddwn ni'n gallu symud ymlaen gyda Bil i ail-reoleiddio gwasanaethau bysiau. Roedd dadreoleiddio, wrth gwrs, yn drychineb Thatcheraidd sy'n parhau i ddifetha ein gwasanaethau, yn enwedig mewn lleoedd fel fy etholaeth i lle'r ydym yn gwario'r arian, ond nid ydym yn cael y gwasanaethau sydd eu hangen arnom ni. Rwy'n credu ein bod ni i gyd eisiau gweld bysiau'n cael eu hail-reoleiddio er mwyn sicrhau bod gennym y gwasanaethau sydd eu hangen arnom ni.
Prif Weinidog, mae nifer o wahanol feysydd lle y credaf y gallem ni elwa o ddeddfwriaeth ychwanegol. Rwyf wedi bod yn ystyried deddfwriaeth amgylcheddol, diogelu ein hecoleg ac amgylcheddau sy'n agored i niwed. Bydd y Prif Weinidog yn cofio imi gyflwyno cynigion i greu parc cenedlaethol newydd yng Nghymru, yn y Cymoedd, a chredaf ei bod hi'n bwysig inni edrych eto ar sut yr ydym yn rheoleiddio ac yn dynodi ein parciau cenedlaethol. Wrth gwrs, mae rhannau eraill o'r wlad a fyddai'n elwa ar gael eu dynodi'n barciau cenedlaethol. Rwy'n cofio'r ymgyrch dros barc cenedlaethol mynyddoedd Cambria yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin hefyd, ac mae yna rannau eraill o'r wlad.
A allem ni hefyd ystyried Deddf Cymru lân? Cyfeiriodd y Prif Weinidog at Ddeddf aer glân, ac rwy'n cefnogi'r cynnig hwnnw'n llwyr, ond bydd yn ymwybodol o'r sbwriel yr ydym yn ei weld yn ein cymunedau a'r trallod mawr a achosir i bobl, mewn gwahanol rannau o'r wlad, drwy dipio anghyfreithlon. Rwyf wedi gweld cynnydd mewn tipio anghyfreithlon dros y blynyddoedd diwethaf yn fy etholaeth fy hun, lle mae ein bryniau a'n mynyddoedd prydferth yn cael eu defnyddio i waredu gwastraff. Mae eisoes yn anghyfreithlon, ond mae angen inni allu sicrhau ein bod yn gallu cynyddu'r cosbau a gwneud cyfraith gadarnach i ddiogelu ein cymunedau rhag hynny.
Byddai hefyd yn ddefnyddiol gweld cynllun dychwelyd ernes yn cael ei gyflwyno yng Nghymru. Rwy'n cofio pan mai pop oedd Corona, ac y dychwelwn fy mhotel er mwyn cael fy ngheiniog i brynu ychydig mwy o bop, ac rwy'n credu y byddai'n rhywbeth yr hoffem ni ei weld yn dychwelyd.
Ac yn olaf, Prif Weinidog, a gaf i siarad ar nodyn mwy personol? Bydd Aelodau'n ymwybodol, ac rwy'n amlwg yn ddiolchgar iawn i'r Aelodau am eu geiriau caredig a'u cydymdeimlad, ond fe ges i drawiad ar y galon rai misoedd yn ôl. Roeddwn yn ffodus iawn, iawn fy mod i gyda rhywun oedd yn deall y broses o ddadebru cardio-pwlmonaidd ac a allodd ddod o hyd i ddiffibriliwr o fewn munudau. Pan stopiodd fy nghalon guro, roedd rhywun yno a allai fy helpu ac achub fy mywyd. Darparu diffibrilwyr, darparu hyfforddiant mewn dadebru sylfaenol, ynghyd â chamau statudol ar gyfer goroesi, cynllunio i holl gyrff y gwasanaeth cyhoeddus a'r awdurdodau iechyd weithio gyda'i gilydd, gyda'r cyhoedd, i sicrhau bod pawb yn cael yr un cyfle i gael byw ag a roddwyd i mi. A phan oeddwn yn siarad â'r bobl a oedd wedi achub fy mywyd rai misoedd yn ôl, roeddent yn glir iawn mai aelodau o'r cyhoedd a oedd yno pan stopiodd fy nghalon guro a roddodd gyfle i'r criw ambiwlans a'r llawfeddygon yn ysbyty'r Mynydd Bychan roi ail anadl einioes imi. Felly, y cyhoedd a'n gweithwyr proffesiynol yn cydweithio gyda chamau goroesi, ynghyd â'r deunyddiau, y cyfleoedd a'r hyfforddiant, sy'n cynnig i bawb y cyfle hwnnw i gael byw.