COVID-19: Profion ar gyfer Staff Cartrefi Gofal

Part of 6. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 15 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 2:49, 15 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Iawn. Mae Fforwm Gofal Cymru wedi datgan bod eu pryderon yn ymwneud â'r amser dychwelyd canlyniadau, gan fod 46.5 y cant o ganlyniadau profion a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru wedi'u dychwelyd o fewn diwrnod, a 66 y cant o fewn dau ddiwrnod. Mae hynny'n is na'r wythnos diwethaf. Pryd y byddwch yn mynd i'r afael ag amseroedd aros ar gyfer canlyniadau profion? Diolch, Llywydd dros dro.