Part of 6. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
A gaf i gytuno â'r sylwadau a'r cwestiynau a ofynnodd fy nghyd-Aelod Janet Finch-Saunders wrth agor y sesiwn cwestiynau amserol hon? Gweinidog, mae llawer wedi'i ddweud am bwysigrwydd profi ac olrhain a'r problemau yn y sector gofal cartref. Gwn fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi rhoi pwyslais arbennig yn ddiweddar ar brofi cleifion cyn iddyn nhw adael yr ysbyty i fynd i gartref gofal neu yn ôl i'w cartref eu hunain i leoliad gofal cartref. Mae hynny'n ymddangos yn arfer eithaf synhwyrol. A yw hynny'n gyffredin ledled Cymru, ac a ydych yn edrych am ffyrdd o allu ymestyn profion fel hyn a ffyrdd eraill o wneud y sector gofal cartref mor rhydd o COVID â phosib?