Part of 6. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Unwaith eto, roedd nifer o bwyntiau yno, Dirprwy Lywydd dros dro. O ran preswylwyr sy'n agored i niwed mewn cartrefi gofal a'r nifer sylweddol o farwolaethau ychwanegol, nid oes gennym dystiolaeth bod trefniadau rhyddhau o ysbytai yn ffactor perthnasol neu, os ydyn nhw, faint o effaith gafodd hynny ar nifer y marwolaethau ychwanegol ac, wrth gwrs, nid yw erioed wedi bod yn wir fy mod wedi gwrthod ateb cwestiynau'r Aelodau yma yn y Senedd.