Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Mae'r ddwy eitem nesaf, 7 ac 8, wedi cael eu tynnu yn ôl.
Felly, eitemau 9 a 10 sydd nesaf. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, dwi'n cynnig y caiff y Rheoliadau Gofynion y Cwricwlwm (Diwygio paragraff 7(5) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020 a Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir (Diwygio Paragraff 7 o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020 eu grwpio ar gyfer dadl, ond gyda phleidleisiau ar wahân. Oes yna unrhyw wrthwynebiadau i grwpio'r rheoliadau hynny? Nac oes.