Part of the debate – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle hwn i siarad am yr ymateb deddfwriaethol a wnaed gennym i bandemig COVID-19 gan ddefnyddio pwerau sy'n gysylltiedig â Deddf Coronafeirws 2020. Fel y gwyddoch chi a phob aelod o'r Senedd, mae'r rhain wedi bod yn amgylchiadau eithriadol, ac maen nhw'n parhau i fod felly, ac mae ein hymateb ni wedi gorfod cydnabod hynny.
Rydym wedi gweithio'n galed i sicrhau bod y camau a gymerwyd wedi bod yn bwyllog ac yn chwim. Rydym wedi rhoi'r amser a'r gofod sydd ei angen ar ysgolion ac awdurdodau lleol i fwrw ymlaen â'r gwaith pwysig a wneir i ofalu am anghenion dysgwyr hyd a lled Cymru.
Mae diwygio rheoliadau gofynion y cwricwlwm wedi ein galluogi ni i gyflwyno hysbysiad sy'n datgymhwyso, dros dro, ofynion sylfaenol y cwricwlwm a'r trefniadau asesu cysylltiedig ar gyfer ysgolion a lleoliadau meithrin nas cynhelir a gyllidir. Lluniwyd y gofynion statudol hyn i'w cyflwyno mewn amgylchedd ffurfiol yr ystafell ddosbarth, ac maen nhw wedi'u datgymhwyso i roi'r gofod a'r hyblygrwydd i ymarferwyr ganolbwyntio ar iechyd a lles dysgwyr, a'u paratoi i ail-ymgysylltu â dysgu. Rydym hefyd wedi cyhoeddi canllawiau sy'n rhoi cyngor ar ddysgu ac addysgu y gallai ysgolion a lleoliadau ddymuno eu darparu ar gyfer gweddill tymor yr haf.
Efallai'n llai amlwg, ond serch hynny, yr un mor bwysig, mae newidiadau wedi eu gwneud i'n galluogi ni i gyflwyno hysbysiadau sy'n addasu'r cod trefniadaeth ysgolion, fel y gall cynigion trefniadaeth ysgolion barhau hyd yn oed pan fo ysgolion ar gau oherwydd y coronafeirws—er enghraifft, unrhyw sgil-effeithiau ar gyllid neu'r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg a allai fod wedi eu heffeithio gan COVID.
Rydym hefyd wedi gwneud hysbysiad arall sy'n datgymhwyso rhan o'r newidiadau i reoliadau amserau sesiynau ysgolion. Mae hyn yn galluogi ysgolion ac awdurdodau lleol i wneud y newid angenrheidiol i amseroedd dechrau a gorffen y diwrnod ysgol yn gyflym, fel eu bod wedi gallu darparu'n ddiogel ar gyfer mwy o ddysgwyr i ailgydio, dal i fyny a pharatoi yn eu hysgolion eu hunain y tymor hwn.
Cwblhawyd yr holl gamau hyn gyda chymorth a chydweithrediad rhai o'n rhanddeiliaid allweddol. Mae cydweithwyr ar hyd a lled Cymru, mewn awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol, Estyn, awdurdodau esgobaethol a chyrff llywodraethu ysgolion, yn ogystal â rhieni, plant a phobl ifanc, wedi bod yn allweddol yn ein hymateb. Byddwn i'n cymeradwyo'r rheoliadau i'r Senedd.