1. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19)

Part of the debate – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 26 Awst 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:41, 26 Awst 2020

(Cyfieithwyd)

Gallaf. Diolch ac ymddiheuriadau am y problemau technegol parhaus hyn. Roeddwn i newydd grynhoi cyngor y prif swyddog meddygol ac eglurais i'r Aelodau sut yr oedd y Cabinet, gan ystyried y cyngor hwnnw, wedi penderfynu defnyddio'r hyblygrwydd sydd gennym ni yng Nghymru i ganolbwyntio ar ailagor ysgolion yng Nghymru yn ddiogel ac yn llwyddiannus o 1 Medi ymlaen.

Yn ogystal â'r mesurau hynny, cafodd y mesurau llacio canlynol eu cynnwys hefyd yn adolygiad yr wythnos diwethaf o'r rheoliadau: o ddydd Sadwrn diwethaf, mae hyd at bedair aelwyd yn cael dod at ei gilydd i ffurfio un aelwyd estynedig, gan ddod ag ystod ehangach o deulu a ffrindiau ynghyd; o'r un diwrnod, mae pryd o fwyd mewn lleoliad dan do a reoleiddir ar gyfer hyd at 30 o bobl nawr yn bosibl i'r rhai sy'n dathlu priodas neu bartneriaeth sifil neu'n nodi angladd; o ddydd Sadwrn nesaf, 29 Awst, ar yr amod bod y feirws yn parhau i gael ei atal yn effeithiol, bydd ymweliadau dan do mewn cartrefi gofal hefyd yn bosibl unwaith eto. Bydd yn rhaid i amodau caeth fod ynghlwm wrth y datblygiad hwn, o ystyried y risgiau dan sylw, ac rwy'n ddiolchgar i swyddfa'r comisiynydd pobl hŷn ac i Fforwm Gofal Cymru am gymryd rhan yn y gwaith o gynhyrchu'r canllawiau angenrheidiol. Bydd casinos yng Nghymru hefyd yn cael ailagor o ddydd Sadwrn nesaf ymlaen, yn amodol ar y gyfres o fesurau lliniaru sydd bellach yn gyfarwydd.

Yn olaf, dros y tair wythnos hyn, Llywydd, byddwn yn treialu tyrfaoedd yn yr awyr agored ar gyfer digwyddiadau ym meysydd y celfyddydau a chwaraeon, gan ddod â hyd at 100 o bobl ynghyd. Fel bob tro, yng Nghymru, dull gweithredu'r Llywodraeth fu cynllunio, treialu ac yna, os yn bosibl, ymestyn y rhyddid y gallwn ei adfer. Cyn belled â bod y digwyddiadau arbrofol yn llwyddiannus a bod y feirws yn parhau i gael ei atal, ein nod fydd ehangu ymgynnull yn awyr agored o'r math hwn yn fwy cyffredinol yn y dyfodol.

Fel yn y cylchoedd blaenorol, byddwn hefyd yn defnyddio'r tair wythnos bresennol i edrych ymlaen. Byddwn yn ystyried galwedigaethau sy'n digwydd o fewn aelwydydd unigol, megis gwersi cerddoriaeth. Byddwn yn edrych ar ffyrdd y gellid cynnal cyfarfodydd bach dan do, er enghraifft, mewn canolfannau cymunedol at ddibenion megis dosbarthiadau colli pwysau a chlybiau llyfrau. A byddwn yn dysgu o gynlluniau treialu sy'n digwydd mewn mannau eraill mewn chwaraeon proffesiynol, wrth i ni barhau i weithio gyda'r sector digwyddiadau mawr yng Nghymru.

Llywydd, fel y dywedais yn gynharach, nid yw argyfwng y coronafeirws wedi diflannu. Bydd y misoedd i ddod yn gosod llawer o heriau. Er y gall y Llywodraeth gynllunio, paratoi a darparu, gweithredoedd pob un ohonom ni, dinasyddion unigol, sy'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Mae'r mwyafrif sylweddol o bobl yng Nghymru yn parhau i ymddwyn yn ofalus iawn er mwyn cadw eu hunain ac eraill yn ddiogel. Mae lleiafrif bach nad ydyn nhw'n gwneud hynny. Mae eu gweithredoedd yn achosi niwed y gellir ei osgoi. Maen nhw'n ychwanegu at y pwysau a deimlir gan ein gwasanaethau cyhoeddus sydd dan bwysau ac maen nhw'n tanseilio popeth y mae pawb arall wedi gweithio mor galed i'w gyflawni. Wrth i ni fynd i mewn i gyfnod mwy heriol yr hydref a'r gaeaf, mae angen i bawb yng Nghymru chwarae eu rhan i gadw Cymru'n ddiogel. Diolch yn fawr.