Part of the debate – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 26 Awst 2020.
Wrth gwrs, er bod nifer yr achosion yng Nghymru yn parhau'n gymharol isel, fel y cyfeiriwch yn eich datganiad, Prif Weinidog, mae'n rhaid i ni sicrhau, pan fo hynny'n bosibl, bod gwasanaethau a thriniaethau arferol y GIG y gellir eu cynnal, yn cael eu cynnal. Mae pobl ledled Cymru yn aros yn daer am lawdriniaethau a thriniaethau a allai, pe bydden nhw'n cael eu dal yn ôl, gael effaith sylweddol ar y ffordd y maen nhw'n byw eu bywydau, ac mae'n gwbl hanfodol bod pob llwybr posibl yn cael ei archwilio i sicrhau eu bod yn cael triniaeth mor ddiogel â phosibl mewn modd prydlon. Er enghraifft, mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos cynnydd pryderus yn nifer y cleifion sy'n aros am driniaeth am fwy na 36 wythnos a mwy na 52 wythnos ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, bwrdd iechyd sydd dan eich rheolaeth chi yn uniongyrchol. Mae'r rhain yn bobl go iawn, Prif Weinidog, yn aros yn daer am driniaeth, ac mae llawer ohonyn nhw yn anghysurus ac mewn poen ddifrifol.
Nawr, mae'n destun pryder bod arolwg tracio diweddaraf Cymdeithas Feddygol Prydain o feddygon wedi dangos bod 60 y cant o feddygon wedi dweud nad oedd ganddyn nhw lawer o ffydd neu ddim ffydd o gwbl yn eu heconomi iechyd leol neu eu gwasanaethau cymunedol i ateb y galw wrth i wasanaethau arferol y GIG ailddechrau, ac mae hynny'n rhywbeth y mae angen mynd i'r afael ag ef ar frys. A wnewch chi, felly, ddweud wrthym ni pa gamau brys y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd nawr i sicrhau y bydd y bobl hynny sy'n aros am driniaeth ledled Cymru yn gallu cael gafael ar wasanaethau cyn gynted ag sy'n bosibl? A pha drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda'r proffesiwn meddygol ynghylch y ffordd orau o gefnogi'r rhai sy'n gweithio yn y GIG i fynd i'r afael â'r ôl-groniad o lawdriniaethau a thriniaethau ledled Cymru?