Part of the debate – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 26 Awst 2020.
Diolch, Llywydd. Cynigiaf y tair cyfres o reoliadau ger ein bron heddiw yn ffurfiol a gofynnaf i Aelodau eu cefnogi. Fel gyda'r rheoliadau sydd wedi'u rhagflaenu, mae'r rheoliadau hyn sy'n cael eu trafod heddiw wedi'u cyflwyno o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 drwy weithdrefnau brys i gefnogi sut rydym ni'n mynd i'r afael â'r coronafeirws yma yng Nghymru. Wrth i nifer yr achosion o'r coronafeirws leihau, rydym ni wedi parhau i adolygu'r cyfyngiadau y bu'n rhaid eu gorfodi ar unigolion, busnesau a sefydliadau eraill i reoli'r argyfwng eithriadol hwn o ran iechyd y cyhoedd. Mae'r adolygiad parhaus o'r rheoliadau yn ychwanegol at y cylch adolygu 21 diwrnod, lle mae angen i Weinidogion Cymru adolygu'r angen am gyfyngiadau a gofynion o leiaf bob 21 diwrnod.
Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, bydd Aelodau'n ymwybodol ein bod ni wedi ceisio lliniaru'n raddol yr ystod o gyfyngiadau sy'n berthnasol yng Nghymru wrth i'r amgylchiadau ganiatáu inni wneud hynny. Mae'r rheoliadau sydd gerbron y Senedd heddiw yn parhau â'r broses honno. Mae'r holl newidiadau a gyflwynir gan y rheoliadau hyn unwaith eto yn seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf a chyngor iechyd y cyhoedd. Ar y sail honno, ystyriwn gyfyngiadau y mae hi'n ddiogel inni eu dileu neu eu lliniaru gan warchod ar yr un pryd rhag unrhyw gynnydd pellach yn lledaeniad y feirws yma yng Nghymru. Gyda'i gilydd, mae'r tair cyfres o reoliadau wedi dileu llawer o'r cyfyngiadau cyfreithiol sy'n weddill ar fywyd bob dydd a'r economi. Fodd bynnag, er mwyn gwneud hynny, ar adegau, rydym ni hefyd wedi gorfod cymryd camau lliniarol i gadw rheolaeth ar y feirws.
Daeth rheoliadau diwygio Rhif 3 i rym ar 3 Awst. Roeddent yn caniatáu i hyd at 30 o bobl gyfarfod yn yr awyr agored; i dafarndai, bariau, caffis a bwytai ailagor dan do; ac alïau bowlio, neuaddau bingo a thai arwerthiant i ailagor. Roedd rheoliadau gwelliant Rhif 4, a ddaeth i rym ar 10 Awst, yn caniatáu llacio'r cyfyngiadau coronafeirws ymhellach drwy ganiatáu i amrywiaeth o safleoedd eraill ailagor, gan gynnwys pyllau nofio, stiwdios ffitrwydd, cyfleusterau sba i'r graddau nad oeddent eisoes ar agor, canolfannau hamdden a mannau chwarae dan do. Roeddent hefyd yn ehangu'r gweithgareddau y gellid eu cynnal mewn canolfannau cymunedol.
Yn yr amserau eithriadol hyn, daw rhyddid gyda chyfrifoldebau. Rhoddodd y rheoliadau hyn bwerau newydd i awdurdodau lleol sicrhau bod adeiladau'n dilyn y gyfraith ac yn cymryd pob cam rhesymol i liniaru lledaeniad y coronafeirws. Rhoddwyd pwerau i swyddogion gorfodi yr awdurdodau lleol gyflwyno hysbysiadau gwella, neu yn yr enghraifft ddiwethaf hon i'w gwneud hi'n ofynnol i safleoedd gau. Deallaf fod pedwar hysbysiad gwella wedi'u cyflwyno hyd yma ledled Cymru. Wrth gwrs, mae'r rhan fwyaf o fusnesau'n awyddus i wneud popeth sydd ei angen, felly ni ddylai camau o'r fath fod yn angenrheidiol yn y mwyafrif helaeth o achosion. Ein nod fu cefnogi'r mwyafrif helaeth o fusnesau a chyflogwyr cyfrifol drwy sicrhau bod chwarae teg i bawb.
Dylwn gydnabod un amryfusedd a wnaed yn y rheoliadau hynny lle'r oeddem yn honni rhoi'r pŵer i lysoedd ynadon osod dedfryd o garchar am dorri'r gofynion. Fel y nodwyd yn gywir gan y Pwyllgor Deddfau, Cyfiawnder a Chyfansoddiad, ni ellir rhoi pŵer o'r fath o dan y pwerau hyn. Felly, aethom ati yn brydlon ac yn uniongyrchol i wneud y cywiriad sy'n ofynnol yn y gyfres derfynol o reoliadau sydd ger ein bron heddiw, a ddaeth i rym ar 17 Awst. Deallaf, rhwng 10 Awst a gwneud y cywiriad hwn, na chyhoeddodd yr un llys ddedfryd o garchar ac rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor am godi'r mater hwn.
Yn olaf, mae rheoliadau gwelliant Rhif 5 a ddaeth i rym ar 17 Awst yn ei gwneud hi'n orfodol mewn lleoliadau risg uchel i gasglu manylion cyswllt y rhai sy'n ymweld â'r safle. Mae hynny'n golygu, os gellir olrhain achos neu glystyrau yn ôl i dafarn, caffi neu leoliad arall penodol, fel sydd eisoes wedi digwydd yng Nghymru ac mewn mannau eraill yn y DU, y bydd gennym ni gofnod wedyn o bwy oedd yno ar y pryd, ffordd o gysylltu â nhw yn gyflym, er mwyn sicrhau eu bod nhw a'u haelwydydd yn hunanynysu, a rhoi cyfle i atgyfnerthu'r angen i gael prawf yn ôl y gofyn. Mae hyn yn rhagofal synhwyrol i'w gymryd ar hyn o bryd yng ngoleuni cyngor y prif swyddog meddygol bod misoedd yr hydref a'r gaeaf yn debygol o ddod â heriau newydd ac ychwanegol o ran rheoli'r coronafeirws yma yng Nghymru.
Llywydd, mae'r cyfyngiadau a roddwyd ar waith i ddiogelu iechyd pobl a rheoli lledaeniad y coronafeirws wedi bod yn ddigynsail. Mae'r gyfraith yn glir, fodd bynnag, mai dim ond cyhyd ag y maent yn angenrheidiol ac yn gymesur y gellir cadw'r cyfyngiadau hynny ar waith. Addawodd ein canllaw, a gyhoeddwyd ar 15 Mai, ddull gofalus a chydlynol o liniaru'r cyfyngiadau drwy newidiadau rheoleiddiol graddol dros amser. Credaf fod y rheoliadau y mae Aelodau'n pleidleisio arnyn nhw heddiw wedi helpu i anrhydeddu'r addewid hwnnw ac anogaf y Senedd i'w cefnogi.