Part of the debate – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 26 Awst 2020.
Diolch yn fawr, Llywydd, a dwi'n siarad fel Cadeirydd dros dro, felly, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, fel rydych chi newydd nodi.
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 ydy'r prif reoliadau ar y coronafeirws yng Nghymru. Cymeradwyodd y Senedd y rheoliadau hyn ar 5 Awst eleni, ynghyd â dwy set o reoliadau diwygio. Ar 24 Awst, gwnaethom adrodd ar dair set arall o reoliadau diwygio, sef y rheoliadau sy'n destun y ddadl yma heddiw. Roedd rheoliadau diwygio Rhif 3 yn caniatáu i fwytai, caffis, bariau a thafarndai agor dan do ac yn caniatáu i neuaddau bingo, aleau bowlio a thai ocsiwn agor hefyd. Fodd bynnag, rhaid cymryd mesurau i leihau'r risg o ddod i gysylltiad efo'r feirws. Fe wnaeth rheoliadau diwygio Rhif 3 hefyd lacio ar y cyfyngiad ar gynulliadau fel y caniateir cynulliad yn yr awyr agored o ddim mwy na 30 o bobl, pa un a yw'n ymwneud â gweithgareddau yn yr awyr agored sydd wedi eu trefnu ai peidio. Tynnodd ein hadroddiad ar reoliadau diwygio Rhif 3 sylw at y ffaith na chafwyd ymgynghoriad cyhoeddus nac asesiad effaith rheoleiddiol ar y rheoliadau, a hynny o ganlyniad i'r amgylchiadau presennol, yn amlwg.
Roedd rheoliadau diwygio Rhif 4 yn caniatáu i ganolfannau cymunedol, pyllau nofio, stiwdios ffitrwydd, campfeydd, sbaon, canolfannau hamdden, a mannau chwarae o dan do i agor hefyd. Unwaith eto, fodd bynnag, rhaid cymryd mesurau i leihau'r risg o ddod i gysylltiad efo'r coronafeirws yn y fangre. Maent hefyd yn rhoi pwerau newydd i swyddogion gorfodaeth awdurdodau lleol i sicrhau y cymerir mesurau er mwyn lleihau'r risg o ddod i gysylltiad efo'r coronafeirws mewn gweithleoedd a mangreoedd eraill sydd ar agor.
Gwnaethom godi pwyntiau technegol a phwyntiau rhinweddau mewn perthynas â rheoliadau diwygio Rhif 4. Yn gyntaf, o ran y pwyntiau technegol, gwnaethom dynnu sylw at y ffaith bod y rheoliadau yn cynnwys cosb bosibl o chwe mis o garchar mewn perthynas â throseddau newydd sy'n ymwneud efo hysbysiadau cau mangre. Dwi'n clywed beth mae'r Gweinidog newydd ddweud. Fodd bynnag, byddai hyn yn afreolaidd, wrth gwrs, gan fod y Ddeddf y mae'r rheoliadau yn ddarostyngedig iddi, sef Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yn darparu na ellir cosbi troseddau o'r fath trwy garcharu. Er ein bod yn nodi bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhoi sylw i'r mater hwn yn rheoliadau diwygio Rhif 5 trwy wneud yn glir mai dim ond trwy ddirwy y gellir cosbi troseddau o'r fath, roedd y ddarpariaeth yn ymwneud â charcharu mewn grym rhwng 10 Awst 2020 a 17 Awst 2020. Felly, rydym yn ysgrifennu at y Prif Weinidog yn gofyn iddo gadarnhau na chafodd y ddarpariaeth honno unrhyw effaith ymarferol yn ystod y cyfnod hwnnw. Eto, dwi'n clywed beth mae'r Gweinidog wedi ei ddweud heddiw.
Yn ein hadroddiad, gwnaethom ofyn hefyd am eglurder ynghylch y broses o gymhwyso rheoliad 18(7), sy'n ymwneud efo'r wybodaeth y gall swyddog gorfodi ofyn amdani, a sut y gellir ei defnyddio mewn achos. O ran y pwyntiau rhinweddau, mae ein hadroddiad yn ceisio eglurder ynghylch dull gorfodi Llywodraeth Cymru, a hefyd ynghylch sut mae'r Llywodraeth yn gweithio gyda swyddogion gorfodi mewn awdurdodau lleol, o ystyried bod y cyfyngiadau sy'n berthnasol i unigolion a busnesau yng Nghymru bellach wedi'u gwneud ac wedi eu diwygio 17 o weithiau. Mae hwn yn bwynt pwysig gan fod amlder y newidiadau a wnaed at ddibenion adlewyrchu natur newidiol y pandemig yn ei gwneud hi'n anodd i unigolion a busnesau ddilyn yr hyn y mae gofyn iddyn nhw ei wneud. Yn ei dro, mae hyn yn codi cwestiynau ynghylch sut mae'r cyfyngiadau wedi cael eu gorfodi.
Rydym hefyd yn gofyn am wybodaeth ynghylch yr adnoddau y mae eu hangen i gyflawni'r gweithgarwch gorfodi hwn. Yn ein barn ni, byddai wedi bod yn ddelfrydol pe bai gwybodaeth am y gyfundrefn orfodi wedi cael ei chynnwys yn y memorandwm esboniadol.
Er na godwyd unrhyw bwyntiau gennym yn ein hadroddiadau ar reoliadau diwygio Rhif 5, byddwn yn ysgrifennu at y Prif Weinidog yn sgil y ffaith bod canllawiau Llywodraeth Cymru ar reoliadau Rhif 5 wedi dod i'n sylw ers hynny. Yn benodol, mae'r canllawiau yn dweud bod rhwymedigaeth gyfreithiol ar y sector lletygarwch, sinemâu, campfeydd ac ati i gasglu a chadw gwybodaeth am gwsmeriaid. Fodd bynnag, mae'r rheoliadau'n dweud bod yn rhaid i bob busnes, mangre agored, gweithle ac ati, gan gynnwys y sector lletygarwch, sinemâu a champfeydd, gymryd mesurau rhesymol i ymdrin â'r feirws. Ym mwyafrif helaeth yr achosion, efallai ei bod hi'n rhesymol i'r sector lletygarwch a champfeydd ac ati gasglu a chadw gwybodaeth, fodd bynnag, nid ydym yn credu bod hyn yn gyfystyr â rhwymedigaeth gyfreithiol gyffredinol. Dylid gwneud penderfyniad ar bob achos ar sail y ffeithiau perthnasol, ac, fel y gwyddom ni, ni ellir datgan y gyfraith mewn canllawiau. Y gyfraith yw'r hyn a nodir yn y rheoliadau eu hunain.
Trof yn awr at y pwynt olaf ar reoliadau Rhif 5. Ymddengys bod y canllawiau'n dweud y gellir casglu a chadw gwybodaeth am gwsmeriaid er mwyn lleihau'r risg y bydd unrhyw berson
'sydd wedi bod ym mangre rhywun'— dwi'n dyfynnu yn y fan yna—yn lledaenu'r feirws. Fodd bynnag, mae'r rheoliadau yn dweud y gellir casglu gwybodaeth am gwsmeriaid at y diben gwahanol o leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws 'yn y fangre'. Ac, eto, dwi'n dyfynnu eto.
Byddaf yn ddiolchgar, felly, i orffen, pe bai'r Llywodraeth yn gallu egluro a oes unrhyw anghysondeb rhwng y canllawiau a'r rheoliadau ar y pwynt yma. Diolch yn fawr iawn i chi.