9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Mesurau i Atal COVID-19

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 16 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 5:05, 16 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar ar ran y Ceidwadwyr Cymreig. Nawr, mae'r cynnig sydd ger ein bron yn galw am dri pheth syml: i Lywodraeth Cymru ailystyried y safbwynt ar orchuddion wyneb, sicrhau bod cyfyngiadau symud lleol yn gymesur â bygythiad y feirws yn y cymunedau penodol hynny, a'i gwneud yn ofynnol i bob teithiwr sy'n dod i mewn i Gymru o dramor gael prawf COVID-19 wrth gyrraedd Maes Awyr Caerdydd.

Nawr, mae'r cyntaf o'r materion hynny bellach wedi cael sylw, ac ers dydd Llun, mae pobl yng Nghymru mewn siopau a mannau cyhoeddus eraill dan do bellach wedi gorfod gwisgo gorchudd wyneb. Mae'r newid polisi hwn i'w groesawu'n fawr, ac rwy'n falch o weld Llywodraeth Cymru o'r diwedd yn derbyn rhinweddau gorchuddion wyneb ac yn cefnogi galwadau'r gwrthbleidiau ar y mater hwn. Wrth gwrs, fe allai ac fe ddylai Gweinidogion fod wedi gweithredu'n gynt, yn enwedig wrth i dystiolaeth barhau i dyfu ynglŷn â'u manteision posibl. Er enghraifft, diweddarodd grŵp cynghori technegol Llywodraeth Cymru ei gyngor ar orchuddion wyneb ar 11 Awst eleni, gan nodi y bydd gorchuddion wyneb yn lleihau gwasgariad diferion anadlol ac aerosolau bach sy'n cario'r feirws i'r awyr oddi wrth unigolyn sydd â'r haint, tra'n rhoi rhywfaint o ddiogelwch i'r sawl sy'n eu gwisgo. Yn wir, mae Grŵp Amgylcheddol a Modelu y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) a Sefydliad Iechyd y Byd hefyd wedi dweud yn glir fod gan orchuddion wyneb ran bwysig i'w chwarae yn rhan o becyn o fesurau atal a rheoli a all helpu i gyfyngu ar ledaeniad y feirws.

Felly, mae'n codi'r cwestiwn pam na wnaeth Llywodraeth Cymru weithredu'n gynt? A gwn fod Aelodau ar draws y Siambr hon wedi galw ar y Llywodraeth i wneud hynny. Gallai'r defnydd gorfodol o orchuddion wyneb mewn siopau a mannau cyhoeddus eraill dan do fod wedi cael effaith sylweddol ar gymunedau pe bai'r polisi wedi'i gyhoeddi ychydig fisoedd yn ôl. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddweud wrth bobl Cymru ei bod yn mabwysiadu ymagwedd ragofalus at drechu'r feirws, ac felly nid oedd yn gwneud synnwyr i beidio â defnyddio'r holl arfau a oedd ar gael iddi i gyfyngu cymaint â phosibl ar y feirws. Beth bynnag fo'r rheswm y tu ôl i oedi Llywodraeth Cymru cyn cyflwyno polisi ar orchuddion wyneb gorfodol, y peth pwysig yn awr fydd sicrhau bod y newidiadau i'r rheolau'n cael eu gorfodi'n briodol i helpu i leihau trosglwyddiad y feirws. Yn ôl arolwg barn diweddar gan YouGov, mae pobl yng Nghymru yn llai tebygol o wisgo masgiau wyneb na phobl yn Lloegr neu'r Alban, sy'n amlygu'r angen am gyngor cyson gan Lywodraeth Cymru er mwyn lleihau trosglwyddiad cymunedol.

Nawr, er bod Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir fod defnyddio gorchuddion wyneb mewn siopau a mannau cyhoeddus eraill dan do yn orfodol, ni ddangoswyd yr un arweiniad mewn perthynas ag ysgolion. Yn hytrach, mae canllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru yn argymell gorchuddion wyneb ar gyfer pob aelod o'r cyhoedd dros 11 oed mewn lleoliadau dan do lle na ellir cadw pellter cymdeithasol, gan gynnwys ysgolion a thrafnidiaeth ysgol. Felly, mae hynny'n codi'r cwestiwn, os yw defnyddio gorchuddion wyneb yn orfodol ar gyfer siopau, pam nad yw'n orfodol ar gyfer ysgolion? Os yw'r wyddoniaeth wedi arwain Llywodraeth Cymru i gyflwyno gorchuddion wyneb mewn siopau, pam ddim ysgolion a cholegau? Pam y mae Llywodraeth Cymru yn teimlo bod angen gwneud y penderfyniad ar gyfer siopau a rhai mannau dan do, ond yn achos ysgolion a darparwyr addysg, rhoddwyd y cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol a darparwyr unigol? Felly, wrth ymateb i'r ddadl heddiw, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn onest ac yn agored ynglŷn â pham y mae Llywodraeth Cymru wedi oedi cyn gwneud y defnydd o orchuddion wyneb yn orfodol mewn rhai mannau cyhoeddus. Ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog hefyd yn dweud wrthym pam y dewisodd y Llywodraeth wneud y penderfyniad mewn perthynas â siopau, ond nid ysgolion a cholegau. 

Mae ail bwynt ein cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio cyfyngiadau symud lleol mewn ymateb i gynnydd sylweddol yng nghyfraddau heintio COVID-19, ac i sicrhau bod y cyfyngiadau'n gymesur â lefel y bygythiad a achosir yn y cymunedau hynny er mwyn osgoi cyfyngiadau symud drwy Gymru gyfan. Gwyddom fod Llywodraeth Cymru, ym mis Mai, wedi dweud yn gwbl glir na fyddai'n ystyried cyfyngiadau symud lleol, oherwydd, ar y pryd, dadleuai y gallai gwahanol reolau achosi llawer iawn o ddryswch i bobl ledled y wlad. Yn wir, aeth y Gweinidog cyllid ymlaen i ddweud mai un o gryfderau neges Llywodraeth Cymru oedd ei bod yn neges glir iawn a oedd yr un mor berthnasol ledled Cymru. Yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru wedi newid ei safbwynt ar gyfyngiadau symud lleol ac o ganlyniad, mae Caerffili wedi bod dan gyfyngiadau symud i helpu i atal lledaeniad y feirws yn y gymuned honno, a chlywn heddiw, wrth gwrs, fod hynny wedi digwydd yn Rhondda Cynon Taf hefyd.

Wrth gwrs, bydd yr Aelodau'n cofio na chafodd cyfyngiadau symud lleol eu hystyried yn Wrecsam yn dilyn cynnydd sydyn yn nifer yr achosion ym mis Gorffennaf, er mai'r ardal honno oedd wedi gweld y cynnydd mwyaf ond un yn nifer yr achosion yn y DU. Nawr, rydym wedi dweud yn glir ar yr ochr hon i'r Siambr ein bod yn cefnogi cyflwyno cyfyngiadau lleol i helpu i atal cynnydd sylweddol yn nhrosglwyddiad yr haint mewn cymunedau lleol ac i helpu i leihau risg o achosion yn dod yn broblem genedlaethol. Fodd bynnag, mae'n gwbl hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn monitro unrhyw gyfyngiadau symud lleol i sicrhau eu bod yn effeithiol ac yn gymesur â'r bygythiad y mae'r feirws yn ei achosi yn yr ardal honno. Felly, wrth ymateb i'r ddadl hon, efallai y gallai'r Gweinidog ddarparu rhywfaint o wybodaeth bellach am y cyfyngiadau symud lleol—pa drafodaethau y mae'n eu cael gydag awdurdodau lleol ynglŷn â throsglwyddiad y feirws yn eu hardaloedd—ac efallai y gallai ddweud ychydig mwy wrthym ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro effeithiolrwydd cyfyngiadau symud lleol wrth i bethau fynd rhagddynt.

Ddirprwy Lywydd, daw hynny â mi at ran olaf ein dadl, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i'w gwneud yn ofynnol i bob teithiwr sy'n dod i mewn i Gymru o dramor gael prawf COVID-19 wrth gyrraedd Maes Awyr Caerdydd. Pan gafodd Caerffili eu rhoi dan gyfyngiadau symud lleol, dywedodd y Gweinidog iechyd yn glir iawn fod cysylltiad rhannol rhwng y cynnydd mewn achosion a phobl yn yr ardal yn dychwelyd o'u gwyliau, sydd wedi arwain at y feirws yn lledaenu eto o fewn y gymuned leol. Felly, ar y pwynt hwnnw, does bosibl nad oedd hi'n allweddol fod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod teithwyr yn cael prawf ar ôl iddynt gyrraedd Maes Awyr Caerdydd.

Yn wir, yn natganiad y Gweinidog iechyd heddiw ar osod Rhondda Cynon Taf dan gyfyngiadau symud yfory, mae'n cyfeirio at y ffaith bod hyn wedi bod yn angenrheidiol oherwydd cynnydd yn nifer yr achosion newydd a achoswyd gan bobl yn dychwelyd o wyliau haf ar gyfandir Ewrop. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae profion maes awyr yn digwydd ledled y byd, ac felly, mae profion maes awyr yn gwbl ymarferol yma. Yn wir, dros y ffin, mae ASau Llafur wedi ymgyrchu dros gynnal profion maes awyr yn Lloegr. Ac eto, nid yw'r maes awyr ym Mhrydain y mae gan y Blaid Lafur reolaeth drosto mewn gwirionedd wedi cynnal prawf ar unrhyw un eto. Mae Ysgrifennydd Cartref yr wrthblaid, Nick Thomas-Symonds, yn iawn i ddweud y gallai cyfundrefn brofi gadarn mewn meysydd awyr leihau'r angen i'r rhai sy'n dychwelyd o wledydd â chyfradd uchel o achosion o'r coronafeirws dreulio pythefnos dan gwarantin.

Fel y gŵyr yr Aelodau, codais y mater hwn gyda'r Prif Weinidog brynhawn ddoe, a dywedodd yn glir fod yn rhaid mynd i'r afael â phroblemau ymarferol, a bod trafodaethau'n parhau gyda'r rheolwyr ym Maes Awyr Caerdydd. Felly, efallai y gall y Gweinidog drosglwyddo'r wybodaeth honno i'w gymheiriaid yn San Steffan, gan eu bod mor awyddus i fwrw ymlaen ar fyrder â threfn brofi mewn meysydd awyr. Ac efallai y gall y Gweinidog ddweud wrthym beth yn union yw'r problemau ymarferol y mae angen eu datrys ym Maes Awyr Caerdydd, a phryd y mae'n debygol y gwelwn unrhyw gynnydd ar y mater hwn.

Ddirprwy Lywydd, os caf droi'n fyr at rai o'r gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Wrth gwrs, o ran gwelliant 1, ers cyflwyno'r ddadl, mae Llywodraeth Cymru wedi newid ei safbwynt ar ddefnyddio gorchuddion wyneb, ac rwy'n falch fod y Llywodraeth o'r diwedd wedi gwrando ar ein galwadau ar y mater hwn. Byddwn yn cefnogi gwelliannau 6, 7 ac 8 wrth gwrs, sy'n ceisio cryfhau'r cynnig ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cynllun COVID-19 ar gyfer y cyfnod nesaf, i archwilio'r defnydd o gyfyngiadau symud clyfar wrth ymateb i glystyrau lleol, ac i fynd i'r afael ar frys â phroblemau yn y drefn brofi bresennol.

Felly, wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, wrth wraidd y ddadl hon mae awydd i archwilio mesurau atal a rheoli COVID-19 Cymru yn fforensig, ac ystyried beth arall sydd angen ei wneud i amddiffyn pobl Cymru a chyfyngu ar ledaeniad y feirws. Credaf fod yr Aelodau i gyd yn gytûn yma at ei gilydd, a gwn ein bod i gyd yn rhannu'r nod o ddileu'r feirws ofnadwy hwn o'n cymunedau a lleihau ei effaith ar ein hetholwyr. Ond mae'n amlwg y gellir ac y dylid gwneud mwy.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yr argymhellion yn ein cynnig heddiw ac yn cyflwyno profion ym Maes Awyr Caerdydd ar fyrder. Dylid gwneud popeth yn ein gallu i ddiogelu ein cymunedau a lleihau effaith COVID-19 yn ein cymunedau. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig.