Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 16 Medi 2020.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i yn ffurfiol. Hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl bwysig hon. Byddaf yn ei chefnogi, ynghyd â gwelliannau Plaid Cymru y teimlaf eu bod yn ceisio cryfhau'r ddadl.
Rwyf wedi bod yn galw am wneud gwisgo gorchuddion wyneb yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus yn arbennig ers dyddiau cynnar y pandemig, yn dilyn galwadau gan fy etholwyr a oedd yn weithwyr allweddol ond nad oeddent yn gallu mynd ar fysiau am mai ar 25 y cant o'r capasiti roedd trafnidiaeth gyhoeddus yn rhedeg, ac roedd hynny'n anghynaliadwy. Fe'i cynigiais fel cwestiwn i'r Prif Weinidog, ac roeddwn yn falch o weld yr awgrym yn cael ei fabwysiadu ddiwrnod yn ddiweddarach.
Gwyddom fel ffaith bod feirws SARS-CoV-2 yn cael ei ledaenu gan ficroddefnynnau sy'n ei wneud yn haint a drosglwyddir drwy'r awyr i bob pwrpas. Gwyddom hefyd y gall rhai nad ydynt yn arddangos unrhyw symptomau o gwbl ledaenu'r clefyd, a gall masgiau wyneb atal COVID-19 rhag lledaenu. Rhaid inni gynyddu ymwybyddiaeth pobl a bod yn gyson yn ein neges a phwysleisio pwysigrwydd gwisgo masg. Pe bai pobl wedi glynu wrth y canllawiau, efallai na fyddem yn gweld cyfyngiadau symud lleol fel rydym yn ei weld yn awr, a'r unig ffordd y gallwn sicrhau bod pobl yn gwisgo masg yw ei wneud yn orfodol.
Ceir tystiolaeth fod yr achosion a welwn yn cael eu hachosi gan bobl sy'n dychwelyd o dramor heb hunanynysu. A chyfyngwyd ar ryddid llond sir gyfan o bobl a thu hwnt, fel y clywsom heddiw, oherwydd gweithredoedd ychydig o bobl. Dylai fod yn rhaid i unrhyw un sy'n teithio o dramor ynysu dan gwarantin am 14 diwrnod. Nid yw'n gwneud synnwyr fod modd i bobl deithio o fannau lle ceir problemau COVID a chael cyfarwyddyd i ynysu, anwybyddu'r cyfarwyddiadau hynny os dymunant gan deimlo'n ddiogel wrth wybod nad oes neb yn cadw llygad. Caniateir iddynt adael eu cartrefi i siopa. Mae hefyd yn nonsens y gall pawb ar yr aelwyd barhau fel arfer—mynd i weithio, i'r archfarchnad neu i'r dafarn. Credaf fod angen i Lywodraeth Cymru sicrhau llety i alluogi teithwyr i ynysu dan gwarantin, lle caiff bwyd a meddyginiaeth eu danfon iddynt a'u bod yn cael eu profi am COVID-19 ar ddiwrnod 2 a diwrnod 9, p'un a ydynt yn arddangos symptomau ai peidio. A gall y rhai sy'n dychwelyd i'r DU sydd â'r cyfleusterau i ynysu'n llwyr oddi wrth weddill eu haelwydydd wneud hynny yn eu cartrefi eu hunain, ond byddent yn ddarostyngedig i brofion a gwiriadau ar hap rheolaidd i sicrhau cydymffurfiaeth. Dyma sut y caiff ei wneud mewn gwledydd sydd wedi llwyddo i atal COVID—gwledydd nad ydynt wedi cael unrhyw achosion mewn dros dri mis. Ac os ydym am gael unrhyw obaith o atal ail don, mae angen i ni fod yn gadarn.
Mae rhoi pawb dan gyfyngiadau symud yn annheg ac yn ddiangen. Rhaid inni ynysu rhai sy'n cludo'r haint a rhai a allai fod yn cludo'r haint a phrofi pob un ohonynt, p'un a ydynt yn arddangos symptomau ai peidio. Os na wnawn hynny, bydd yr achosion hyn yn parhau i ledaenu heb eu hatal, gan gynyddu'n sydyn pan na fyddwn yn disgwyl hynny. Efallai'n wir y bydd angen cyfyngiadau symud yn y dyfodol, ond mae angen iddynt fod yn hyperleol ac wedi'u gorfodi'n llym. Mae sir Caerffili dan gyfyngiadau symud, ond gall ei thrigolion barhau i deithio i'r gwaith neu fynd i'r dafarn, felly maent yn debycach i gyfyngiadau symud rhannol.
Os ydym am gael rheolaeth ar hyn, efallai y bydd angen i fesurau fod yn fwy cadarn, ond nid oes angen eu gweithredu ym mhobman ychwaith. Rhaid inni ganolbwyntio ar nodi ac ynysu'r rhai sydd wedi'u heintio â'r feirws, nid gosod pawb dan gyfyngiadau—mae hynny'n debyg i dorri'r goedwig gyfan er mwyn atal tân. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi fy ngwelliant a'r cynnig. Diolch yn fawr.