Part of the debate – Senedd Cymru am 5:14 pm ar 16 Medi 2020.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'n dda iawn gallu cymryd rhan yn y ddadl yma ac i gynnig yn ffurfiol y cyfres yna o welliannau. Dwi'n meddwl ei bod yn dda cael cyfle ar ddechrau'r tymor fel hyn i dynnu sylw at rai o'r pethau dwi yn meddwl sydd yn gweithio, a rhai o'r prif elfennau o gonsyrn o ran yr ymdriniaeth â'r pandemig a'r camau sydd yn cael eu cymryd i gadw pobl yn ddiogel.