Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 16 Medi 2020.
Yn amlwg, mae pethau wedi symud ymlaen ers cyflwyno hyn, ond mae'n amlwg yn ystod digwyddiadau'r dyddiau diwethaf fod Cymru'n parhau i wynebu argyfwng iechyd na welwyd mo'i debyg o'r blaen. Ac rwyf fi, wrth gwrs, yn croesawu'r ddadl hon, oherwydd—efallai ei bod ychydig ar ei hôl hi yn awr, ond mae'n bwysig inni gael y cyfle hwn i ofyn ein cwestiynau a mynegi ein pryderon ynghylch yr hyn sy'n argyfwng iechyd byd-eang.
Mae sawl agwedd ar ein heconomi wedi agor, ac mae angen inni sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu fel y gall busnesau barhau i fasnachu'n ddiogel ac y gall cynifer o weithwyr ag sy'n bosibl ddarparu ar gyfer eu teuluoedd. Mae'n hanfodol fod busnesau ac eraill yn addasu i'r normal newydd er mwyn lleihau'r perygl i lefel mor ddiogel â phosibl er mwyn dileu risg—mae'n amhosibl dileu risg, mae'n ddrwg gennyf—neu fel arall ni fyddwn byth yn gadael ein cartrefi, byth yn gyrru i unman, ond mae angen rheoli risgiau'n effeithiol.
Mae'r cyfyngiadau lleol yng Nghaerffili, yn fy rhanbarth etholiadol i, gydag un arall bellach yn cael ei roi mewn grym yn Rhondda Cynon Taf, yn dangos yn glir fod y bygythiad yn parhau, ac rwy'n siŵr fod y sefyllfa ym Merthyr Tudful a Chasnewydd yn cael ei monitro'n agos gan swyddogion y Gweinidogion. Yn wir, mae cyfradd yr achosion positif yng Nghaerffili ym mhob 100,000 o bobl bellach yn uwch na'r hyn ydoedd yn ystod y don gyntaf yn ôl yn y gwanwyn. Gwn fod ein hardaloedd lleol ar draws fy rhanbarth i yn ne-ddwyrain Cymru wedi gwneud gwaith gwych yn addasu ac yn ymateb i'r argyfwng hwn, ac maent yn haeddu ein clod a'n diolch am bopeth y maent wedi'i wneud, ond Weinidog, efallai fod angen inni weithio'n agosach gyda'n hawdurdodau lleol yn awr—yn agosach gyda'n hawdurdodau lleol—a'r heddlu i sicrhau eu bod yn gallu gorfodi rheolau'r Llywodraeth mewn ffordd well ac atal cyfyngiadau symud pellach.
Mae pawb ohonom yn derbyn y gallai fod angen cyfyngiadau lleol i ymdrin â chynnydd yn nifer yr achosion o COVID-19, ond dylai mesurau fod yn gymesur. Rhaid i ddiogelu bywydau fod yn flaenoriaeth Rhif 1, ond ni allwn esgeuluso'r effaith y mae cyfnodau hir o gyfyngiadau symud yn ei chael ar iechyd meddwl pobl, lles plant a bywoliaeth pobl. Felly, rwy'n croesawu'r ffaith bod y Gweinidog addysg, yn ei datganiad ddoe, mor benderfynol y bydd ein hysgolion yn aros ar agor drwy'r cyfyngiadau symud lleol hyn.
Fy mhryder i yw bod negeseuon cymysg a diffyg eglurder yn null Llywodraeth Cymru o weithredu wedi peri dryswch. Fel y nododd ein harweinydd, Paul Davies, yn gynharach, ym mis Mai dywedodd y Gweinidog cyllid nad oedd Llywodraeth Cymru yn ystyried cyfyngiadau symud lleol, gan y gallai gwahanol reolau achosi llawer iawn o ddryswch, ac yna aeth ymlaen i honni mai un o gryfderau neges Llywodraeth Cymru, fel y dywedwyd, oedd bod neges glir iawn yr un mor berthnasol ledled Cymru. Yn wir, pan welwyd cynnydd sydyn yn nifer yr achosion o'r coronafeirws yn Wrecsam ym mis Gorffennaf—gyda llaw, y cynnydd mwyaf ond un yn y DU ar y pryd—ni chafodd cyfyngiadau symud lleol eu hystyried hyd yn oed. Credaf fod hyn yn arwydd o'r anghysondeb yn null Llywodraeth Cymru o reoli'r feirws.
Mae'r dryswch ynglŷn â gwisgo gorchuddion wyneb yn enghraifft dda o ymagwedd Llywodraeth Cymru. Rwyf fi, wrth gwrs, yn croesawu'r newid yn y polisi yn awr. Mae'n bwysig iawn ein bod yn gwisgo gorchuddion wyneb, ac rwy'n cymeradwyo'r ffaith bod y Llywodraeth bellach wedi ei gwneud hi'n orfodol i'w gwisgo. Mae gorchuddion wyneb wedi bod yn orfodol yn Lloegr ers misoedd ac o gofio bod gan y Gweinidogion fynediad at yr un cyngor gwyddonol a meddygol arbenigol â Gweinidogion mewn rhannau eraill o'r DU, nid wyf yn deall pam y gwnaed penderfyniad gwahanol. Ai enghraifft arall oedd hon o Lywodraeth Cymru yn ceisio bod yn wahanol i Loegr ddim ond er mwyn bod yn wahanol? Does bosibl nad yw'r argyfwng hwn yn mynnu bod gwleidyddiaeth plaid yn cael ei rhoi o'r neilltu.
Mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i wella ei dull o gyfathrebu ynglŷn â chyfyngiadau lleol. Yn dilyn y diffyg eglurder a pheth dryswch ynghylch y rheolau a osodwyd yn ddiweddar yng Nghaerffili ac sydd bellach yn yr arfaeth yn Rhondda Cynon Taf, mae trigolion a busnesau lleol wedi gofyn am eglurder ynglŷn â'r rheolau newydd. Beth yn union yw 'esgus rhesymol' i adael a dod i mewn i'r sir? Mae'n ddryslyd. Bu'n rhaid i gyngor Caerffili hyd yn oed aros am ganllawiau manylach gan Lywodraeth Lafur Cymru, sy'n awgrymu bod angen gwell cyfathrebu rhwng y llywodraeth ganolog a llywodraeth leol. Mynegwyd pryderon nad oedd rhai pobl yng Nghaerffili yn gallu cael profion COVID-19, gyda chadeirydd Cymdeithas Feddygol Prydain yn disgrifio'r ciwiau yn y ganolfan dros dro fel rhai 'erchyll'. Yn ei ddatganiad yn gynharach heddiw—. Rwy'n cymeradwyo'r Gweinidog iechyd am y camau cadarnhaol y mae'n eu cymryd, ond a all roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am unrhyw gynnydd y mae'n ei wneud ar gynyddu'r capasiti profi yng Nghymru, oherwydd mae mor bwysig, gyda nifer yr achosion yn dal i godi ar draws fy rhanbarth i a ledled Cymru?
Mae'r ffaith ein bod bellach yn gweld rhagor o gyfyngiadau symud lleol yn codi'r cwestiwn a fu methiant i gyfathrebu a gorfodi'r gyfres flaenorol o fesurau a rhagofalon COVID. Pa wersi y mae Llywodraeth Cymru wedi'u dysgu, a sut y byddech yn gweithredu'n wahanol yn y dyfodol i atal rhagor o gyfyngiadau symud lleol? Mae busnesau yn fy ardal i wedi cwyno nad yw rhai busnesau'n trafferthu gyda'r trefniadau olrhain. Mae'n amlwg fod angen mwy o gymorth ac arweiniad ar awdurdodau lleol a heddluoedd i orfodi'r rheolau presennol yn well er mwyn atal yr angen am fwy o gyfyngiadau lleol.
Rwy'n croesawu'r camau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd yn awr ar ôl ei ddatganiad heddiw, ond efallai y gall y Gweinidog yn ei ateb egluro pa gamau y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd i wella negeseuon, a chyflymu'r canllawiau sy'n dilyn a chydymffurfiaeth y cyhoedd yn sgil hynny. Rwy'n croesawu'n fawr awgrym Andrew R.T. Davies yn gynharach heddiw y dylem rannu'r wybodaeth a roddir allan ar lefel wardiau. Rwy'n credu bod hwnnw'n syniad da iawn a bydd yn gwneud yn siŵr ein bod yn cael y wybodaeth iawn i'r bobl iawn yn gyflymach.