Part of the debate – Senedd Cymru am 6:21 pm ar 16 Medi 2020.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Fel Mark Reckless, rwy'n croesawu'r rhannau o'r Bil marchnad fewnol sy'n ailwladoli pwerau o'r UE i San Steffan ac i'r Seneddau datganoledig. Fel ef, rwyf wedi bod yn ymladd ar hyd fy oes wleidyddol i weld y nod hwn yn cael ei gyflawni, byth ers i mi ddod yn ymgeisydd seneddol yn ôl ym 1973. Ond rwy'n gwrthwynebu'r rhannau o'r Bil sy'n rhoi rhagor o bwerau i'r sefydliad hwn ac i'r sefydliadau datganoledig eraill yn y Deyrnas Unedig. Fel y dywedodd Darren Millar yn ei araith ddoe, mae'r Bil hwn yn rhoi dwsinau o bwerau newydd i'r Senedd, i Senedd yr Alban ac i Ogledd Iwerddon hefyd. Ac fel y dywedodd Mark Reckless, disgrifir datganoli fel proses, nid digwyddiad, a gwelaf felly fod y Llywodraeth Geidwadol yn rhan o'r broses honno, sydd, fel y dywedodd Mark Reckless, yn bygwth chwalu'r Deyrnas Unedig yn y pen draw. Oherwydd nid oes fawr o amheuaeth, yn sicr mewn perthynas â'r Alban, nad yw'r broses ddatganoli wedi gwneud dim i leddfu'r awydd am annibyniaeth—mewn gwirionedd, mae wedi bwydo'r bwystfil. Ac mae'n ddigon posibl, maes o law, y bydd yr Alban yn ymwahanu oddi wrth weddill y Deyrnas Unedig, a chredaf y byddai hynny'n drueni. Nid yw cenedlaetholwyr Cymru wedi bod agos mor llwyddiannus â chenedlaetholwyr yr Alban, ond serch hynny, byddai'r un posibilrwydd yn bygwth Cymru yn fawr iawn.
Rwy'n credu bod Cymru'n cael cam mawr gan ddatganoli a dyna pam rwyf wedi addasu fy marn am werth y lle hwn yn ystod y pedair blynedd a hanner y bûm yma. Yn yr 20 mlynedd o ddatganoli, mae Cymru wedi mynd am yn ôl o'i chymharu â gweddill y Deyrnas Unedig. Dim ond 75 y cant o gyfartaledd y DU yw'r incwm cyfartalog yng Nghymru, fel y gwyddom. Felly, pa obeithion bynnag oedd gan bobl ar y pryd y cytunwyd ar y setliad datganoli, yn sicr nid ydynt wedi'u cyflawni.
Rwy'n synnu bod Llywodraeth Cymru mor wrthwynebus i ddatganoli pwerau o Frwsel i San Steffan, Caerdydd, Caeredin a Belfast. Ymddengys eu bod bellach yn ddig iawn ynglŷn â'r posibilrwydd y bydd y Deyrnas Unedig yn arfer pwerau mewn perthynas â'r materion a fydd yn cael eu hailwladoli, ond nid oeddent yn poeni o gwbl am y pwerau hynny'n cael eu harfer gan bobl na allwn prin mo'u henwi, heb sôn am eu rheoli, ym Mrwsel. Wedi'r cyfan, o dan drefn bleidleisio drwy fwyafrif cymwysedig, dim ond 8 y cant o'r pleidleisiau sydd gan y DU yng Nghyngor y Gweinidogion, un comisiynydd allan o 27 a 10 y cant o'r pleidleisiau yn Senedd Ewrop. Pa farn bynnag a fydd gennych am y rhifyddeg honno, mae'n siŵr o arwain at gynnydd enfawr mewn democratiaeth ac atebolrwydd mewn perthynas â maes sylweddol o gyfreithiau a wneir ac y cawn ein llywodraethu ganddynt.
Ond wrth gwrs, mae marchnad sengl y Deyrnas Unedig yn bwysicach o lawer i Gymru nag yr oedd marchnad sengl yr UE erioed. Wedi'r cyfan, mae 60 y cant o allforion Cymru yn mynd i Loegr ac mae 84 y cant o boblogaeth y Deyrnas Unedig yn byw yn Lloegr. Pe bai unrhyw berygl o Falcaneiddio marchnad y Deyrnas Unedig, y collwr mawr fyddai Cymru ac yn sicr nid Lloegr. Dyna pam ei bod mor bwysig pasio'r egwyddorion cydnabyddiaeth gilyddol ac anwahaniaethu a gynhwysir yn y Bil hwn, oherwydd eu bod mewn gwirionedd yn gwarantu mynediad Cymru i farchnad y Deyrnas Unedig, a fyddai, pe bai'n cael ei wrthod, yn drychineb llwyr i economi Cymru.
Nawr, roedd agwedd Jeremy Miles tuag at hyn braidd yn chwerw ac mae wedi'i ddisgrifio fel man cychwyn i ras i'r gwaelod a fydd yn tanseilio'r safonau uchel rydym yn eu mwynhau ar hyn o bryd mewn perthynas â safonau bwyd, lles anifeiliaid a'r amgylchedd. Ond fel Mark Reckless, nid wyf yn gweld pam y dylai'r Llywodraeth amddifadu defnyddwyr o'r hawl i ddewis. Gadewch iddynt benderfynu pa safonau y maent am eu dilyn. Wedi'r cyfan, mae llawer o bobl yn credu mai bwyd organig sydd orau i ni, ac mae ganddynt hawl i'w barn, ond ni ddylid cael penderfyniad llywodraethol ynglŷn ag a ddylid gorfodi hynny ar bawb arall. Ac felly, rwy'n credu mai mater i ni fel unigolion yw penderfynu drosom ein hunain beth sydd orau yn ein barn ni a pheidio â chael y Llywodraeth i wneud hynny ar ein rhan. Ond wrth gwrs, greddf gyntaf Llywodraeth Cymru yw rheoleiddio, cyfyngu ac ymyrryd.
Mae'r darpariaethau cymorth gwladwriaethol hefyd wedi bod yn ddadleuol yn y Bil hwn, ond wrth gwrs, mae Lloegr yn rhoi cymhorthdal enfawr i Gymru. Yn wir, tri rhanbarth Llundain, de-ddwyrain a dwyrain Lloegr sy'n sybsideiddio pob rhanbarth a gwlad arall yn y Deyrnas Unedig. Mae Llywodraeth Cymru yn gwario £18 biliwn y flwyddyn, daw £14.7 biliwn ohono o San Steffan, neu Whitehall, oherwydd mai dim ond ychydig dros £2 biliwn y flwyddyn a godwn mewn refeniw treth incwm yng Nghymru ac ychydig dros £1 biliwn ar y trethi datganoledig eraill. Mae hynny'n £4,500 y pen o'r boblogaeth yng Nghymru. Nid yw'n syndod, felly, fod Llywodraeth y DU wedi dod i'r casgliad mai'r sawl sy'n talu ddylai gael penderfynu. A chredaf y byddai'n niweidiol iawn i ddyfodol yr undeb pe bai yna unrhyw system arall yn hytrach na'r hyn a gynigir o ganlyniad i'r Bil hwn. Pan fo cymaint o gymhorthdal trethdalwyr yn Lloegr yn llifo i Gymru, mae'n annirnadwy y byddai trethdalwyr Lloegr yn barod i gyflwyno system lle gallai Llywodraeth Cymru ddefnyddio eu harian i dandorri cwmnïau o Loegr a gweithredu ar yr hyn y gellid ei ddisgrifio fel cystadleuaeth annheg. Pan ddigwyddodd hyn yn 2014, rwy'n cofio—