Part of the debate – Senedd Cymru am 6:27 pm ar 16 Medi 2020.
Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig gwelliannau Plaid Cymru. Ni all Plaid Cymru groesawu Bil Marchnad Fewnol y DU. Yn wir, rydym yn ei weld fel ymosodiad uniongyrchol ar genedligrwydd a democratiaeth yng Nghymru. Y Bil hwn yw'r ymosodiad unigol mwyaf ar ddatganoli ers ei greu. Nid cipio pŵer yn unig a wneir gan y Bil marchnad fewnol ond dinistrio dau ddegawd o ddatganoli. Bydd dau refferendwm yn cael eu hanwybyddu a bydd ewyllys pobl Cymru yn cael ei wrthdroi os caiff y gyfraith hon ei phasio. Dyna pam ein bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio annibyniaeth er mwyn diogelu democratiaeth Cymru yng ngoleuni'r Bil hwn sy'n cael ei gynnig yn San Steffan.
Nawr, mater o ymddiriedaeth yw hyn, Lywydd. Amlinellodd y Papur Gwyn ar gyfer y Bil hwn, a ryddhawyd yn gynharach yr haf hwn, ddwy reol gynllunio i gefnogi'r amcanion cyffredinol hyn, sef: (1) meithrin cydweithredu a deialog, a (2) hyrwyddo ymddiriedaeth a sicrhau didwylledd. Ar y ddau fater, mae'r Bil yn torri ei reolau ei hun. Ar gyfer cydweithredu a deialog, gerbron pwyllgor dethol Tŷ'r Cyffredin ar y berthynas â'r UE yn y dyfodol, dywedodd Jeremy Miles nad oedd Llywodraeth y DU wedi ymgysylltu llawer â Llywodraeth Cymru ar hyn ers dechrau'r flwyddyn, ac nid oedd yn gwybod beth fyddai'r Bil yn ei gynnwys yn fanwl ychwaith. Mae'n amlwg nad yw hyn yn arwydd o gydweithio a deialog adeiladol. Ac o ran didwylledd, agorodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad ar y Papur Gwyn, ond er hynny, nid yw Llywodraeth y DU wedi rhyddhau crynodeb hyd yn oed o'r cyfryw ymgynghoriad ar unrhyw adeg ers cau'r ymgynghoriad a chyhoeddi'r Bil. Pa reswm arall a fyddai'n esbonio hyn ar wahân i'r ffaith bod mwyafrif helaeth o'r rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad yn mynegi barn negyddol?
Sut y gallwn ymddiried yn San Steffan i edrych ar ôl buddiannau Cymru pan fo'n amlwg o'r Bil hwn, a'u gweithredoedd, eu bod yn benderfynol o ddinistrio dau ddegawd o ddatganoli sefydledig ar draws gwledydd y Deyrnas Unedig? Mae'r ffordd fyrbwyll y mae San Steffan yn ymdrin â'r pandemig eisoes wedi dangos sut y gallwn ni yng Nghymru wneud yn well drosom ein hunain. Mae angen inni gryfhau, nid gwanhau ein pwerau ein hunain. Y cwestiwn y mae'n rhaid i'r Aelodau a phobl ledled Cymru ei ofyn a'i ateb heddiw yw: pwy ydych chi'n ymddiried fwyaf ynddynt, Cymru neu San Steffan?
O ran cydnabyddiaeth gilyddol, mae cwmpas cydnabyddiaeth gilyddol yn bellgyrhaeddol, gan gyfyngu ar allu Llywodraeth Cymru i ddeddfu'n effeithiol, ac mae hefyd yn rhoi pwerau i Lywodraeth y DU newid y rheolau'n unochrog. Mae hyn yn golygu y bydd yn anodd iawn i'r Llywodraethau datganoledig wyro oddi wrth safonau Lloegr, ac ni fyddant yn gallu gorfodi'r safonau hynny yn erbyn mewnforion o Loegr. Dros yr 20 mlynedd diwethaf, rydym wedi cael yr hyblygrwydd i gyflwyno gwahanol reolau a rheoliadau y credwn y byddent yn diogelu dinasyddion Cymru ac o fudd iddynt. Bydd Cymru yn awr yn ddi-rym i atal cynnyrch o ansawdd isel fel cyw iâr clorinedig rhag llifo i'n harchfarchnadoedd, gan dandorri ffermwyr Cymru. Gallai orfodi Cymru i droi llygad dall at greulondeb i anifeiliaid a gallai arwain at ddychwelyd at wyau batri a mathau eraill o fwyd a gynhyrchir drwy ddefnyddio arferion gwahanol.
Nid oes ymddiriedaeth na pharch, ac ymhell o adfer rheolaeth, byddai'r Bil hwn yn ein rhoi mewn lle llawer gwaeth na'r sefyllfa rydym ynddi fel aelodau o'r UE. Rydym yn colli rheolaeth—rydym yn colli'r rheolaeth gyfyngedig sydd gennym yn awr.
Mae sgil-effeithiau rhyngwladol y Bil hwn hefyd yn glir i'w gweld. Ni ddylem mewn unrhyw amgylchiadau groesawu Bil sydd, yn ôl cyfaddefiad y Llywodraeth ei hun, yn torri cyfraith ryngwladol.
Mae monitro'r Bil marchnad fewnol hefyd yn bwysig. Mae problemau difrifol ynghlwm wrth ddarpariaeth reoleiddiol arfaethedig yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd sy'n goruchwylio marchnad fewnol y DU. Ni ellir ymddiried mewn corff anetholedig a sefydlwyd gan San Steffan i fod yn ddiduedd, gan agor y drws i gorfforaethau enfawr herio cyfreithiau Cymru yn y llys, gan sathru ar ein democratiaeth yn y broses. Lywydd, mae'n debyg iawn i gêm rhwng Cymru a Lloegr, lle caniateir i Loegr nid yn unig ddewis y canolwr, ond wedyn i benderfynu pa reolau y dylai'r canolwr eu dilyn a beth ddylai'r cosbau fod.
Y ffordd ymlaen, wrth i mi gloi—gallaf weld yr amser—mae Llywodraeth San Steffan wedi bod yn targedu pwerau Cymru ers Brexit, wedi'i gwneud yn fwy beiddgar gan bleidlais Brexit mewn gwirionedd. Annibyniaeth yw'r unig ateb cynaliadwy i rwystro ymosodiadau San Steffan ar genedligrwydd a sefydliadau Cymru. Bellach, rhaid i Lywodraeth Cymru o leiaf archwilio annibyniaeth er mwyn diogelu ein democratiaeth. Mae arnom angen mwy na geiriau. Mae arnom angen Llywodraeth sydd o blaid annibyniaeth yng Nghymru a fydd yn ein grymuso i wrthsefyll ymosodiadau San Steffan ar ein democratiaeth.