Part of the debate – Senedd Cymru am 6:43 pm ar 16 Medi 2020.
Diolch i Andrew R.T. Davies am ei gyfarchiad yno, yn rhoi croeso i mi siarad. Wel, clywsom gan Neil Hamilton y dylem barchu ein meistri ariannol, clywsom gan Gareth Bennett 'ar gyfer Gymru, gweler Lloegr', ond hoffwn fynd â'r Aelodau yn ôl i 1998, pan gafodd cytundeb Gwener y Groglith ei llunio a'i lofnodi. Gwnaethpwyd hynny o ganlyniad i lawer iawn o waith gan John Major, Prif Weinidog Ceidwadol, Tony Blair, Prif Weinidog Llafur, Bertie Ahern yn Iwerddon—llawer iawn o wleidyddion a ddaeth â'r gwrthdaro i ben, gwrthdaro a oedd wedi bod yn bla ar Ogledd Iwerddon ers 1969 ac y gellid olrhain ei wreiddiau yn ôl i 1689 a thu hwnt. Gwrthdaro y credai llawer o bobl na ellid ei ddatrys oherwydd diffyg hunaniaeth gyffredin sy'n dal i fodoli yng Ngogledd Iwerddon, ac eto, ar draws y pleidiau, gwelsom wleidyddion yn dod at ei gilydd ac yn trafod ffordd o roi diwedd ar y gwrthdaro mewn ffordd aeddfed. Ac edrychwch arnom yn awr. Edrychwch arnom yn awr—testun sbort. Gwlad sydd nid yn unig yn falch o dorri cyfraith ryngwladol, ond sy'n cyfaddef hynny. Mae gwladwriaethau wedi bod yn torri cyfraith ryngwladol ers blynyddoedd—gwnaeth yr Unol Daleithiau hynny, gwnaeth yr Undeb Sofietaidd hynny yn y rhyfel oer, mae gwladwriaethau'n dal i wneud hynny yn awr, ond nid wyf yn credu bod unrhyw un mewn gwirionedd yn ddigon twp i gyfaddef hynny.
A dyma ni fel gwlad. Ers blynyddoedd, rydym wedi dweud wrth eraill, 'Edrychwch arnom, rydym yn batrwm o ryddid a democratiaeth gan ein bod yn wlad sy'n seiliedig ar reolau, rydym yn parchu rheolau rhyngwladol', a dyma ni, yn torri'r gyfraith. Sut y gallwn bregethu i eraill yn y dyfodol os ydym yn torri'r gyfraith yn ôl ein haddefiad ein hunain? Mae hynny'n rhywbeth sydd wedi dod nid yn unig yn y Senedd gan Brandon Lewis fel Gweinidog, ond rhywbeth y mae wedi'i ailadrodd ac sydd heddiw wedi achosi ymddiswyddiad yr Arglwydd Keen, Adfocad Cyffredinol yr Alban, oherwydd mae'n parchu ei enw da proffesiynol. Dyna pa mor wael yw sefyllfa rydym ynddi.
Gadewch inni atgoffa ein hunain: cefnogodd Prif Weinidog y DU y cytundeb ymadael, cafodd ei gymeradwyo gan y Senedd ar 23 Ionawr 2020—Boris Johnson oedd y Prif Weinidog. Dywedodd ei fod yn gytundeb parod i'w bobi, cytundeb parod ar gyfer y ffwrn. Wel, mae'r Alasga pob wedi troi'n Eton mess bellach, onid yw, gan nad oes cytundeb yn bodoli nawr. Mae wedi troi ei gefn ar gytundeb y gwnaeth ef ei hun ei gefnogi, wyddoch chi pam? Ni wnaeth ei ddarllen. Ni wnaeth ei ddarllen. Dywedais ar y pryd y byddai hyn yn rhoi ffin i lawr canol Môr Iwerddon. Dywedodd Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd hynny ar y pryd—grŵp nad ydynt yn gyfeillion mynwesol i mi, rhaid dweud. Roedd y Prif Weinidog yn anghytuno. Ac yn awr, naw mis yn ddiweddarach, o diar, mae'r cyfan yn dod yn ôl ar ei ben. Ni ddarllenodd y peth ar y pryd, a dyma'r sefyllfa rydym ynddi.
Fe'i clodforodd. Fe'i hyrwyddodd. Fe'i cefnogodd. Dywedodd fod hwn yn gytundeb a fyddai'n gytundeb ymadael a fyddai'n tynnu'r DU allan o'r UE, ac yn awr mae'n troi ei gefn arno. Pa mor dwp y mae hynny'n gwneud inni edrych fel gwlad, a sut y mae hynny'n adlewyrchu ar Brif Weinidog y DU? Pam y byddai unrhyw wlad yn ymddiried yn y DU mewn negodiadau masnach? Pam? Oherwydd yma mae'r DU yn cytuno ar rywbeth a wedyn yn dad-gytuno. Pam ar y ddaear y byddai unrhyw un yn ymddiried ynom? Dyna'r broblem. Ni fydd unrhyw wlad sydd ag enw o'r fath—. A gwelwn, wrth gwrs, fod Dominic Raab wedi rhuthro draw i America, oherwydd gall weld yr effaith y mae hyn yn ei chael ar wleidyddiaeth America a beth fydd hynny'n ei olygu i gytundeb masnach rhwng y DU a'r Unol Daleithiau, ac yma mae gennym Ysgrifennydd Tramor sydd yn y sefyllfa honno.
A gadewch i mi fod yn hollol glir: rwy'n cytuno bod yn rhaid cael rheolau ym marchnad sengl y DU. Rwy'n cytuno'n llwyr. Ni allwn gael sefyllfa lle na all nwyddau o Gymru fynd i Loegr—mae'n amlwg na allwn, ac am resymau a wnaed yn dda gan Darren Millar ac eraill. Mae'n amlwg na allwn gael sefyllfa lle mae'n anos buddsoddi mewn un rhan o'r DU oherwydd rhwystrau. Ni allwn gael sefyllfa lle nad oes rheolau o gwbl—rhywbeth y mae'r DUP yn ei argymell mewn gwirionedd—oherwydd mewn marchnad fewnol heb reolau y mwyaf sy'n ennill, a'r mwyaf yw Lloegr. Ni allwn ennill y frwydr honno, a dylem groesawu marchnad fewnol sy'n seiliedig ar reolau. Rwy'n croesawu hynny; rwy'n credu bod hynny'n hollol iawn. Fy anhawster i yw hyn: mae gwrthdaro buddiannau uniongyrchol yn Llywodraeth y DU—mae'n Llywodraeth Lloegr hefyd. Nid yw mewn sefyllfa lle mae'n Llywodraeth ffederal drosfwaol sy'n cynrychioli'r wlad gyfan yn unig—mae'n Llywodraeth Lloegr hefyd. Sut y gallwn fod yn hyderus y bydd Llywodraeth y DU sy'n Llywodraeth Loegr yn ogystal â Llywodraeth y DU fod yn deg â'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon? Dyna'r broblem sydd gennyf. Mae'n cyfateb i Lywodraeth yr Almaen yn dweud wrth weddill yr UE beth yn union ddylai'r telerau masnach o fewn yr UE fod.
Byddai wedi bod yn llawer gwell pe gellid bod wedi cytuno ar hyn, a chredaf y gellid bod wedi cytuno arno—gellid bod wedi cytuno ar hyn. Gallem fod wedi cael pedair Llywodraeth y DU yn cytuno ar set gyffredin o reolau. Byddai er budd pawb, hyd yn oed Plaid Genedlaethol yr Alban, pe bai hynny'n ddigwydd, oherwydd nid yw i'r Alban golli mynediad i farchnad sengl fewnol y DU yn mynd i fod o fudd i'r SNP. Byddai wedi bod cymaint yn well pe bai hyn wedi'i wneud ar sail cytundeb, consensws, yn hytrach na gorfodaeth. Ac rwy'n dweud wrth y Ceidwadwyr gyferbyn: rwy'n deall eu hangerdd dros yr undeb. Rwy'n deall eu hangen i amddiffyn yr hyn y mae eu Llywodraeth yn ei wneud. Rwy'n deall hynny. Ond does bosibl na allwch weld bod ymddangos fel pe bai'n gosod y drefn ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon o ran hynny, fod hynny'n gwanhau'r undeb. Nid yw'n cryfhau'r undeb—mae'n ei wanhau.
Mae dyddiau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a sofraniaeth seneddol wedi mynd yn fy marn i. Mae arnom angen gwell cyfansoddiad, gwell DU, ac yn y ffordd honno, gallwn ffynnu. Nid wyf yn credu mai annibyniaeth yw'r unig ateb, ond rwy'n credu bod hon yn bartneriaeth o wledydd cyfartal; mae Darren Millar yn iawn i ddweud hynny. Gadewch i ni ei wneud felly, gadewch i ni gael cyfansoddiad sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, a gadewch i ni symud oddi wrth y sefyllfa hon lle mae'n fater syml o San Steffan yn gosod y drefn a bod rhaid i'r gweddill ohonom dderbyn.