10. Dadl y Blaid Brexit: Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:01 pm ar 16 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 7:01, 16 Medi 2020

Diolch, Llywydd. Fel gwnes i esbonio ddoe yn fy natganiad ar y Bil, mae sawl reswm sylfaenol dros wrthwynebu'r Bil ac felly dros bleidleisio yn erbyn y cynnig hwn. Gaf i jest dynnu sylw at bedwar o'r prif resymau hynny? Yn gyntaf—er nad yw e, yn wahanol i lawer o'r Bil, yn ymosodiad uniongyrchol ar ddatganoli—y gwahoddiad i Senedd y Deyrnas Gyfunol dorri'r gyfraith ryngwladol. Byddai hynny ynddo'i hun yn ddigon, pan ddaw'r amser, i wrthod rhoi cydsyniad deddfwriaethol. Gall y Senedd hon, yn amlwg, ddim torri'r gyfraith ryngwladol. Mae hynny'n ddadl gref dros beidio â chydweithredu â Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i wneud hynny.

Yn ail, byddai Rhan 6 o'r Bil, am y tro cyntaf ers datganoli, yn rhoi pwerau eang iawn i Weinidogion y Deyrnas Gyfunol i ddefnyddio arian trethdalwyr i fuddsoddi yng Nghymru mewn meysydd datganoledig. Yn benodol, mae Gweinidogion y Deyrnas Gyfunol yn siarad am gael gwneud penderfyniadau yr honnir eu bod nhw wedi cael eu cymryd gan fiwrocratiaid Brwsel, ond dyw hynny, wrth gwrs, jest ddim yn wir. Byddai'r pwerau maen nhw'n eu cynnig yn caniatáu iddyn nhw ariannu ysbytai a datblygiadau tai yn uniongyrchol, er bod iechyd a thai, yn gyffredinol, yn cael eu heithrio o gyllid Ewropeaidd. Wrth gwrs, rwyf wedi clywed rhai yn dweud, yn cynnwys heddi, mewn ffordd hollol anghredadwy, fod unrhyw fuddsoddiad gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn ychwanegol at y cyllid a fyddai fel arall o fewn cyllideb Cymru. Rwy'n cymryd, felly, bydd arweinydd yr wrthblaid a'r Ceidwadwyr yn y Senedd yn ymrwymo i wrthwynebu'r pwerau newydd hyn oni bai bod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn rhoi gwarant y bydd unrhyw wariant arfaethedig yn ychwanegol at y cyllid sy'n ddyledus i Gymru o dan fformiwla Barnett neu'r warant a wnaed gan ymgyrchwyr 'leave' na fyddem yn derbyn ceiniog yn llai nag y byddem wedi'i gael pe byddem wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Yn drydydd, gan droi at y rheswm arfaethedig am y Bil: y dymuniad, y dywedir, i ddiogelu'r farchnad fewnol. Fel yr eglures i heddi a ddoe, ac rwy'n ategu sylwadau Carwyn Jones yn hyn, rydym ni'n cefnogi amcan marchnad fewnol i'r Deyrnas Gyfunol, ond nid yw'r ymdrechion i gyd-ddatblygu cyfres o fframweithiau cyffredinol, sef y ffordd orau o sicrhau’r amcan hwnnw, yn cael eu gwella, ond yn hytrach, yn cael eu tanseilio drwy orfodi dyletswyddau cydnabyddiaeth gilyddol a dim gwahaniaethu ar draws pob rhan o'r economi, heb ddim o'r mesurau diogelwch y mae egwyddorion o'r fath yn dibynnu arnyn nhw er mwyn gweithredu'n dderbyniol. 

Rhaid i broses sydd wedi'i hadeiladu ar gydweithredu a chydlynu rhwng y Llywodraethau fod wrth wraidd unrhyw farchnad fewnol. Gadewch i mi roi un enghraifft yn unig, gan adael y cwestiwn o fewnforio o'r Unol Daleithiau o'r neilltu. Gadewch i ni dybio fod Gweinidogion yn y Deyrnas Gyfunol yn penderfynu mai'r unig ffordd i alluogi sector cig eidion Lloegr i aros yn gystadleuol yn rhyngwladol yw caniatáu i ffermwyr ddefnyddio hormonau a gwrthfiotigau mewn gwartheg bîff. Gallai'r Senedd hon wrthod rhoi'r un rhyddid i ffermwyr Cymru, ond, Llywydd, ni allai hi atal cig eidion â chwistrelliad hormonau o Loegr rhag cael ei werthu ar silffoedd archfarchnadoedd yng Nghastell-nedd nac Aberystwyth. Ac ni allai hyd yn oed fynnu bod labeli i ddweud wrth ddefnyddwyr Cymru fod y cig eidion hwnnw wedi cael ei drin felly.

Ymhell o ddiogelu marchnad fewnol, mae'r Bil yn wn cychwyn ar gyfer ras i'r gwaelod—ac rwy'n amddiffyn defnyddio'r ymadrodd hwnnw—gyda rhan leiaf reoledig y Deyrnas Gyfunol yn trechu ac yn darostwng gweddill y Deyrnas Gyfunol i'r safonau isaf hynny. Ac os yw Gweinidogion y Deyrnas Gyfunol eisiau inni gredu eu bod nhw o ddifrif yn eu protestiadau y byddan nhw'n cynnal, neu hyd yn oed yn gwella, ar safonau mewn diogelwch bwyd neu amddiffyniadau amgylcheddol, gadewch iddyn nhw roi'r sicrwydd hynny ar wyneb y Bil.

Ac, yn olaf, Llywydd, a gaf i dynnu sylw Aelodau at ran o'r Bil lle mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn cyfaddef ei bod yn ceisio dadwneud datganoli, sef yr ymgais i ychwanegu cymorth gwladwriaethol at y rhestr o bynciau a gedwir yn ôl yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006? Mae ein cyngor cyfreithiol wedi bod yn glir erioed: dyw hwn ddim yn fater a gedwir yn ôl. Ac mae'n ymddangos nawr fod cyfreithwyr Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn cytuno ar hynny. Dyna pam mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol am ei ychwanegu, er mwyn iddyn nhw gael eu ffordd eu hunain a phennu'r rheolau neu'r diffyg rheolau, gyda llaw, a fydd yn gymwys ar ôl diwrnod olaf Rhagfyr eleni.

Unwaith eto, a gaf i fod yn glir? Rŷn ni o blaid cyfundrefn cymorth gwladwriaethol glir a chadarn y mae pob rhan o'r Deyrnas Gyfunol wedi cytuno iddi ac sy'n destun gorfodaeth gan reoleiddwyr gwirioneddol annibynnol. Ond dydyn ni ddim yn barod i gytuno bod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, sydd â dyletswydd i ofalu am fuddiannau Lloegr mewn meysydd sydd wedi eu datganoli, fel datblygu economaidd ac ati, yn cael cynllunio a phlismona system y gall hi ei defnyddio i ffafrio busnesau yn Lloegr dros rai yn yr Alban, yng Nghymru ac yng Ngogledd Iwerddon.

Dyna ddim ond pedwar o'r rhesymau niferus dros wrthwynebu Bil y farchnad fewnol, a byddwn i'n annog pob un o'r Aelodau yma i gefnogi gwelliant y Llywodraeth i'r cynnig sydd ger ein bron.